“Fydd gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, yn wir unrhyw un sy'n perthyn i'r llwyth, ddim tir fel pawb arall. Byddan nhw'n cael bwyta'r offrymau sy'n cael eu llosgi i'r ARGLWYDD — dyna eu siâr nhw.
[6-7] Os ydy e wir eisiau, mae unrhyw un o lwyth Lefi yn gallu gadael y pentref lle mae'n byw a gwirfoddoli i wasanaethu yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun (gyda'r dynion eraill o lwyth Lefi sy'n gwasanaethu yno'n barhaol).
Mae'r bobloedd dych chi ar fin cymryd eu tir nhw yn gwrando ar bobl sy'n dweud ffortiwn ac yn dewino. Ond mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrthoch chi am beidio gwneud pethau felly.
Pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd wrth droed Mynydd Sinai, dyma chi'n gofyn i'r ARGLWYDD: ‘Paid gwneud i ni wrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, neu orfod edrych ar y tân mawr yma, rhag i ni farw.’
Ond os bydd unrhyw broffwyd yn honni siarad drosta i heb i mi ddweud wrtho am wneud hynny, neu'n siarad ar ran duwiau eraill, rhaid i'r proffwyd hwnnw farw.
Wel, os ydy proffwyd yn honni siarad drosta i, a beth mae e'n ddweud ddim yn dod yn wir, nid fi sydd wedi siarad. Mae'r proffwyd hwnnw wedi siarad o'i ben a'i bastwn ei hun. Peidiwch cymryd sylw ohono.