Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn dy elynion, ac yn canfod meirch a cherbydau a byddin, a'r rheini'n gryfach na'th rai di, paid 'u hofni, oherwydd gyda thi y mae yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth thi i fyny o wlad yr Aifft.
a dweud wrthynt, "Gwrandewch, Israel, yr ydych ar fin ymladd brwydr yn erbyn eich gelynion; peidiwch gwangalonni nac ofni, na dychryn nac arswydo rhagddynt,
Yna bydd y swyddogion yn annerch ac yn dweud wrth y fyddin, "Pwy bynnag sydd wedi adeiladu tu375? newydd ond heb ei gysegru, aed yn ei l adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei gysegru.
Wedyn y mae'r swyddogion i ddweud ymhellach wrth y fyddin, "Pwy bynnag sy'n ofnus ac yn wangalon, aed yn ei l adref, rhag iddo wanhau calonnau ei frodyr yr un modd."
Ond cymer yn anrhaith y gwragedd, y plant, yr anifeiliaid a phopeth arall o ysbail sydd yn y dref; defnyddia i ti dy hun yr ysbail oddi wrth d'elynion y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi iti.
Pan fydd tref dan warchae gennyt am amser maith, a thithau'n ymladd i'w hennill, paid difa ei choed trwy eu torri bwyell. Cei fwyta o'u ffrwyth, ond paid 'u torri i lawr. Ai pobl yw coed y maes, iti osod gwarchae yn eu herbyn?
Dim ond coeden y gwyddost nad yw'n dwyn ffrwyth y cei ei difa a'i thorri, er mwyn iti godi gwrthglawdd rhyngot a'r ddinas sy'n rhyfela yn dy erbyn, nes y bydd honno wedi ei gorchfygu.