Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Os wyt ti'n gweld buwch, dafad neu afr rhywun ar goll, paid â'i anwybyddu. Dos a'r anifail yn ôl at y perchennog. |
| 2 |
| Os nad wyt ti'n gwybod pwy ydy'r perchennog, neu os ydy e'n byw yn rhy bell, dos â'r anifail adre a gofalu amdano. Ond pan ddaw'r perchennog i edrych amdano, rhaid i ti roi'r anifail yn ôl iddo. |
| 3 |
| Gwna yr un fath gydag unrhyw beth ti'n dod o hyd iddo — asyn, dilledyn, unrhyw beth sydd piau rhywun arall. Paid dim ond anwybyddu'r peth. |
| 4 |
| Os wyt ti'n dod ar draws rhywun mewn trafferth am fod ei asyn neu ych wedi syrthio ac yn methu codi, paid â'i anwybyddu. Helpa fe i gael yr anifail ar ei draed unwaith eto. |
| 5 |
| Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. |
| 6 |
| Os wyt ti'n digwydd dod ar draws nyth (mewn coeden neu ar lawr) gyda cywion neu wyau ynddi a'r iâr yn eistedd arnyn nhw, paid cymryd yr iâr oddi ar y rhai bach. |
| 7 |
| Cei gymryd y rhai bach, ond gad i'r fam fynd. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a cei fyw'n hir. |
| 8 |
| Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e. |
| 9 |
| Rhaid peidio plannu unrhyw gnwd arall mewn gwinllan. Bydd beth bynnag gafodd ei blannu, a'r grawnwin, wedi ei halogi ac yn dda i ddim. |
| 10 |
| Ddylai ychen ac asyn ddim cael eu defnyddio gyda'i gilydd i aredig. |
| 11 |
| Paid gwisgo dillad wedi eu gwneud o frethyn sy'n gymysgedd o wlân a llin. |
| 12 |
| Gwna daselau i'w gosod ar bedair cornel dy fantell. |
| 13 |
| “Dyma sydd i ddigwydd os ydy dyn yn priodi merch, ac yn cymryd yn ei herbyn ar ôl cael perthynas rywiol gyda hi. |
| 14 |
| Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’ |
| 15 |
| Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref. |
| 16 |
| Yna rhaid i'r tad ddweud wrth yr arweinwyr, ‘Roeddwn i wedi rhoi fy merch yn wraig i'r dyn yma, ond mae e wedi troi yn ei herbyn hi, |
| 17 |
| a'i chyhuddo hi, ei bod hi ddim yn wyryf. Ond dyma'r prawf ei bod hi'n wyryf!’ Yna rhaid i rieni'r ferch ledu cynfas y gwely priodas o flaen yr arweinwyr, iddyn nhw weld y dystiolaeth. |
| 18 |
| Wedyn rhaid i arweinwyr y dref arestio'r dyn a'i gosbi. |
| 19 |
| Maen nhw i roi dirwy o gant o ddarnau arian iddo, a rhoi'r arian hwnnw i dad y ferch ifanc. Roedd ei gyhuddiad wedi rhoi enw drwg i un o ferched ifanc Israel, a hithau yn wyryf. Bydd y ferch yn aros yn wraig iddo am weddill ei fywyd, a fydd ganddo ddim hawl i'w hysgaru hi. |
| 20 |
| “Ond os ydy'r cyhuddiad yn cael ei brofi'n wir, a'r ferch ifanc ddim yn wyryf, |
| 21 |
| rhaid i ddynion y dref fynd â'r ferch at ddrws tŷ ei thad, a'i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi'n dal i fyw gyda'i rhieni — peth gwarthus i'w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â'r drwg o'ch plith. |
| 22 |
| “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i'r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o Israel. |
| 23 |
| “Os ydy merch, sy'n wyryf ac wedi ei dyweddïo, yn cyfarfod dyn arall yn y dref ac yn cael rhyw gydag e, |
| 24 |
| rhaid mynd â'r ddau ohonyn nhw i'r llys wrth giât y dref a'i lladd nhw drwy daflu cerrig atyn nhw. Mae'r ferch ifanc yn euog am ei bod hi heb weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref. Ac mae'r dyn i gael ei gosbi am dreisio dyweddi dyn arall. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith! |
| 25 |
| “Ond os digwyddodd y peth yng nghefn gwlad, a'r dyn wedi fforsio ei hun arni a'i threisio hi, dim ond y dyn sydd i farw. |
| 26 |
| Dydy'r ferch ifanc ddim i gael ei chosbi o gwbl. Wnaeth hi ddim byd o'i le i haeddu marw. Mae'r un fath â pan mae rhywun wedi ymosod ar berson arall a'i lofruddio — |
| 27 |
| roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i'w hachub hi pan oedd hi'n gweiddi. |
| 28 |
| “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn treisio merch ifanc sydd heb ei dyweddïo, |
| 29 |
| rhaid i'r dyn dalu pum deg darn arian i'w thad, ac yna priodi'r ferch. Am ei fod e wedi ei threisio hi, fydd e byth yn cael ei hysgaru hi. |
| 30 |
| “Dydy dyn ddim i briodi merch oedd ar un adeg yn wraig i'w dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/deuteronomy/022.mp3
34
22