Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. |
| 2 |
| Pan fyddwch chi'n croesi'r Afon Iorddonen i'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw. |
| 3 |
| Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad — tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi. |
| 4 |
| Mae'r cerrig yma gyda plastr drostyn nhw i gael eu codi ar Fynydd Ebal. |
| 5 |
| Yna dylech adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD eich Duw — allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn. |
| 6 |
| Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni — offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw. |
| 7 |
| Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. |
| 8 |
| Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.” |
| 9 |
| Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arno i, bobl Israel. Heddiw dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r ARGLWYDD. |
| 10 |
| Rhaid i chi wrando arno, a cadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.” |
| 11 |
| Yr un diwrnod dyma Moses yn gorchymyn i'r bobl: |
| 12 |
| “Ar ôl i chi groesi'r Afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin. |
| 13 |
| Yna mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali. |
| 14 |
| “Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi'n uchel wrth bobl Israel: |
| 15 |
| ‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw, neu wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) — mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 16 |
| ‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 17 |
| ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 18 |
| ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 19 |
| ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 20 |
| ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 21 |
| ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 22 |
| ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer — merch i'w dad neu ei fam.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 23 |
| ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 24 |
| ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 25 |
| ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
| 26 |
| ‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae'r gyfraith yma'n ei ddweud.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/deuteronomy/027.mp3
34
27