Cafodd ymenyn o'r fuches, llaeth y ddafad a braster u373?yn, hyrddod o frid Basan, a bychod, braster gronynnau gwenith hefyd, a gwin o sudd grawnwin i'w yfed.
Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni; pesgodd Jesurun, a chiciodd; pesgodd, a thewychu'n wancus. Gwrthododd y Duw a'i creodd, a diystyru Craig ei iachawdwriaeth.
Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.
Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw, a'm digio 'u heilunod; gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl, a'u digio chenedl ynfyd.
Oddi allan bydd y cleddyf yn creu amddifaid, ac yn y cartref bydd arswyd; trewir y gwu375?r ifainc a'r gwyryfon fel ei gilydd, y baban sugno yn ogystal 'r hynafgwr.
oni bai imi ofni y byddai'r gelyn yn eu gwawdio, a'u gwrthwynebwyr yn camddeall a dweud, 'Ein llaw ni sydd wedi trechu; nid yr ARGLWYDD a wnaeth hyn oll.'"
Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef, ac nad oes Duw ond myfi. Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw, myfi sy'n archolli, ac yn iachu; ni all neb achub o'm gafael i.
meddai wrthynt, "Ystyriwch yn eich calon yr holl eiriau yr wyf yn eu hargymell ichwi heddiw, er mwyn ichwi eu gorchymyn i'ch plant, ac iddynt hwythau ofalu cadw holl eiriau'r gyfraith hon.
Oherwydd nid gair dibwys yw hwn i chwi, ond dyma eich bywyd; trwy'r gair hwn yr estynnwch eich dyddiau yn y wlad yr ydych ar fynd dros yr Iorddonen i'w meddiannu."
"Dos i fyny yma i fynydd-dir Abarim, i Fynydd Nebo yng ngwlad Moab, gyferbyn Jericho; ac yna edrych ar wlad Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i'r Israeliaid yn etifeddiaeth.
am ichwi fod yn anffyddlon imi yng nghanol yr Israeliaid wrth ddyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin, trwy beidio mynegi fy sancteiddrwydd ymysg yr Israeliaid.