Mae e fel craig, a'i waith yn berffaith; mae bob amser yn gwneud beth sy'n iawn. Bob amser yn deg ac yn onest — yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.
Ai dyma sut ydych chi'n talu'n ôl i'r ARGLWYDD? — dych chi'n bobl mor ffôl! Onid fe ydy'ch tad chi, wnaeth eich creu chi? Fe sydd wedi'ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi!
Gwnaeth iddyn nhw goncro'r wlad heb rwystr, a cawson nhw fwyta o gynnyrch y tir. Rhoddodd fêl iddyn nhw ei sugno o'r creigiau, olew olewydd o'r tir caregog,
Ond dyma Israel onest yn pesgi, a dechrau strancio — magu bloneg a mynd yn dewach a thewach! Yna troi cefn ar y Duw a'i gwnaeth, a sarhau y Graig wnaeth ei hachub;
Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw — duwiau doedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw; y duwiau diweddaraf, duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.
Maen nhw wedi fy ngwneud i'n eiddigeddus gyda'i duwiau ffals, a'm digio gyda'u delwau diwerth. Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl, a'ch gwneud yn ddig trwy fendithio pobl sy'n deall dim.
Ond roedd gen i ofn ymateb y gelynion; y bydden nhw'n camddeall ac yn dweud, “Ni sydd wedi ennill! Ni sydd wedi gwneud hyn! Dydy'r ARGLWYDD wedi gwneud dim!”’
Sut mae un gelyn yn gallu gwneud i fil o Israel ffoi, a dau yn gyrru deg mil ar ffo, oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu nhw, a'r ARGLWYDD wedi gadael iddyn nhw fynd?
Mae eu gwreiddiau'n mynd yn ôl i Sodom, a'u gwinwydden y tyfu ar gaeau teras Gomorra. Mae eu grawnwin yn llawn gwenwyn, a'u sypiau o ffrwyth yn chwerw.
— y duwiau wnaeth fwyta eu haberthau gorau, ac yfed gwin yr offrymau o ddiod? Gadewch iddyn nhw eich helpu chi; gadewch iddyn nhw edrych ar eich holau chi!
Dw i eisiau i chi ddeall mai fi, ie fi ydy e! Does dim duw arall ar wahân i mi. Mae gen i awdurdod i ladd ac i roi bywyd, awdurdod i anafu ac i iacháu a does neb yn gallu fy stopio!
Llawenhewch, genhedloedd, gyda'i bobl; bydd yn dial am ladd ei weision. Mae'n mynd i ddial ar y gelynion, a gwneud iawn am beth a wnaethon i'w dir ac i'w bobl.
[45-46] Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud.
Dim geiriau gwag ydyn nhw — dyma'ch bywyd chi! Os cadwch chi nhw, byddwch chi'n byw yn hir yn y tir dych chi ar fin croesi'r Iorddonen i'w gymryd drosodd.”
“Dos i fyny bryniau Afarîm, a dringo i ben Mynydd Nebo (sydd ar dir Moab, gyferbyn â Jericho), i ti gael gweld Canaan, y wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel.
Roedd y ddau ohonoch chi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i pan oeddech chi gyda phobl Israel wrth Ffynnon Meriba yn Cadesh yn Anialwch Sin. Wnaethoch chi ddim dangos parch ata i o flaen pobl Israel.