Fe ddywed am ei dad a'i fam, "Nid wyf yn eu hystyried", ac nid yw'n cydnabod ei frodyr nac yn arddel ei blant. Oherwydd bu'n cadw dy air ac yn gwarchod dy gyfamod.
Dywedodd am Benjamin: Bydded i anwylyd yr ARGLWYDD fyw mewn diogelwch; bydded i'r Goruchaf gysgodi drosto trwy'r dydd, a gwneud ei drigfan rhwng ei lechweddau.
Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf, a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt; bydd yn cornio'r bobloedd hwy a'u gyrru hyd eithaf y ddaear. Rhai felly fydd myrddiynau Effraim, rhai felly fydd miloedd Manasse.
Gofalodd am y gorau iddo'i hun; cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer. Daeth phenaethiaid y bobl allan; gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD, a'i ddeddfau ynglu375?n ag Israel.
Gwyn dy fyd, Israel! Pwy sydd debyg iti, yn bobl a waredir gan yr ARGLWYDD? Ef yw dy darian a'th gymorth, a chleddyf dy orfoledd hefyd. Bydd dy elynion yn ymostwng o'th flaen, a thithau'n sathru ar eu huchel-leoedd.