×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Deuteronomium 34

1
Aeth Moses i fyny o rosydd Moab i Fynydd Nebo, i ben Pisga gyferbyn Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD iddo y wlad gyfan, sef Gilead cyn belled Dan,
2
holl Nafftali a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda hyd fr y gorllewin;
3
yna'r Negef a gwastadedd dyffryn Jericho, dinas y palmwydd, cyn belled Soar.
4
A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dyma'r wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, a dweud, 'Rhoddaf hi i'th ddisgynyddion.' Dangosais hi i ti, ond ni chei fynd trosodd yno."
5
Ac yno yng ngwlad Moab y bu farw Moses gwas yr ARGLWYDD, yn l gair yr ARGLWYDD.
6
Claddwyd ef mewn cwm yng ngwlad Moab, gyferbyn Beth-peor, ac nid oes neb yn gwybod man ei fedd hyd y dydd hwn.
7
Yr oedd Moses yn gant ac ugain oed pan fu farw; nid oedd ei lygad wedi pylu, na'i ynni wedi pallu.
8
Wylodd yr Israeliaid am Moses yn rhosydd Moab am ddeg diwrnod ar hugain; yna daeth cyfnod yr wylo a'r galaru i ben.
9
Yr oedd Josua fab Nun yn llawn o ysbryd doethineb, oherwydd yr oedd Moses wedi gosod ei ddwylo arno; felly gwrandawodd yr Israeliaid arno yntau, a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
10
Ni chododd yn Israel byth wedyn broffwyd tebyg i Moses, un yr oedd yr ARGLWYDD yn ei adnabod wyneb yn wyneb,
11
ac un a anfonodd i gyflawni'r holl arwyddion ac argoelion yng ngwlad yr Aifft, yn erbyn Pharo a'i holl weision a'r wlad i gyd.
12
Ni fu neb mor gadarn ei allu, ac ni fu un a wnaeth yr holl weithredoedd dychrynllyd a wnaeth Moses yng ngolwg Israel gyfan.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau