Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a'r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a'u cadw, a'u gwneuthur. |
| 2 |
| Yr ARGLWYDD ein DUW a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb. |
| 3 |
| Nid â'n tadau ni y gwnaeth yr ARGLWYDD y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw. |
| 4 |
| Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr ARGLWYDD â chwi yn y mynydd, o ganol y tân, |
| 5 |
| (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr ARGLWYDD a chwi, i fynegi i chwi air yr ARGLWYDD: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i'r mynydd,) gan ddywedyd, |
| 6 |
| Yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf fi, yr hwn a'th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed. |
| 7 |
| Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. |
| 8 |
| Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a'r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear: |
| 9 |
| Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf DDUW eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt; |
| 10 |
| Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. |
| 11 |
| Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. |
| 12 |
| Cadw y dydd Saboth i'w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti. |
| 13 |
| Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: |
| 14 |
| Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th ych, na'th asyn, nac yr un o'th anifeiliaid, na'th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a'th forwyn, fel ti dy hun. |
| 15 |
| A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a'th ddwyn o'r ARGLWYDD dy DDUW allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti gadw dydd y Saboth. |
| 16 |
| Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti. |
| 17 |
| Na ladd. |
| 18 |
| Ac na wna odineb. |
| 19 |
| Ac na ladrata. |
| 20 |
| Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. |
| 21 |
| Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na'i faes, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r y sydd eiddo dy gymydog. |
| 22 |
| Y geiriau hyn a lefarodd yr ARGLWYDD wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a'r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a'u rhoddes ataf fi. |
| 23 |
| A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a'r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a'ch henuriaid chwi; |
| 24 |
| Ac a ddywedasoch, Wele, yr ARGLWYDD ein DUW a ddangosodd i ni ei ogoniant, a'i fawredd; a'i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o DDUW wrth ddyn, a byw ohono. |
| 25 |
| Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a'n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr ARGLWYDD ein DUW mwyach, marw a wnawn. |
| 26 |
| Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y DUW byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw? |
| 27 |
| Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr ARGLWYDD ein DUW; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr ARGLWYDD ein DUW wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny. |
| 28 |
| A'r ARGLWYDD a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant. |
| 29 |
| O na byddai gyfryw galon ynddynt, i'm hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i'w plant yn dragwyddol! |
| 30 |
| Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i'ch pebyll. |
| 31 |
| Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i'w pherchenogi |
| 32 |
| Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi: na chiliwch i'r tu deau nac i'r tu aswy. |
| 33 |
| Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/deuteronomy/005.mp3
34
5