Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau trwy lw. |
| 2 |
| A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD dy DDUW di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy'r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit. |
| 3 |
| Ac efe a'th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a'th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a'r sydd yn dyfod allan o enau yr ARGLWYDD y bydd byw dyn. |
| 4 |
| Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a'th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn. |
| 5 |
| Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun. |
| 6 |
| A chadw orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd, ac i'w ofni ef. |
| 7 |
| Oblegid y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd; |
| 8 |
| Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl; |
| 9 |
| Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o'i mynyddoedd y cloddi bres. |
| 10 |
| Pan fwyteych, a'th ddigoni; yna y bendithi yr ARGLWYDD dy DDUW am y wlad dda a roddes efe i ti. |
| 11 |
| Cadw arnat rhag anghofio yr ARGLWYDD dy DDUW, heb gadw ei orchmynion a'i farnedigaethau, a'i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw: |
| 12 |
| Rhag wedi i ti fwyta, a'th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt; |
| 13 |
| A lluosogi o'th wartheg a'th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o'r hyn oll y sydd gennyt: |
| 14 |
| Yna ymddyrchafu o'th galon, ac anghofio ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, (yr hwn a'th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; |
| 15 |
| Yr hwn a'th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o'r graig gallestr; |
| 16 |
| Yr hwn a'th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,) |
| 17 |
| A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn. |
| 18 |
| Ond cofia yr ARGLWYDD dy DDUW: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn. |
| 19 |
| Ac os gan anghofio yr anghofi yr ARGLWYDD dy DDUW, a dilyn duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y'ch difethir. |
| 20 |
| Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr ARGLWYDD ar eu difetha o'ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich DUW. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/deuteronomy/008.mp3
34
8