Llythyr gan Paul a Timotheus — gweision i'r Meseia Iesu. At bawb yn Philipi sy'n bobl i Dduw ac yn perthyn i'r Meseia Iesu, ac at yr arweinwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn yr eglwys:
Felly dw i'n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl.
Dych chi'n sbesial iawn yn fy ngolwg i, felly mae'n naturiol mod i'n teimlo fel hyn amdanoch chi. Dim ots os ydw i'n y carchar neu â nhraed yn rhydd, dych chi bob amser wedi fy helpu i wneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i mi — sef y gwaith o amddiffyn a rhannu'r newyddion da am Iesu y Meseia.
Yr hyn dw i'n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi'n mynd o nerth i nerth, ac y byddwch chi'n tyfu yn eich dealltwriaeth o'r gwirionedd a'ch gallu i benderfynu beth sy'n iawn.
Bydd hynny'n dangos eich bod chi wedi'ch achub! Bydd yn dangos canlyniad gwaith Iesu Grist yn eich bywydau, ac wedyn bydd Duw yn cael ei fawrygu a'i foli.
Mae holl filwyr y Gwarchodlu a phawb arall yma yn gwybod fy mod i yn y carchar am fy mod i'n gweithio i'r Meseia. Does neb yma sydd ddim yn gwybod hynny!
Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae'r grŵp cyntaf — dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau'n anodd i mi tra dw i yn y carchar.
Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny'n fy ngwneud i'n hapus. A hapus fydda i hefyd!
Dw i'n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i'n ei wneud — hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma!
Dw i'n cael fy nhynnu'r naill ffordd a'r llall: Dw i'n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda'r Meseia am byth — dyna'n sicr ydy'r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd!
Ond beth bynnag fydd yn digwydd i mi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal ati i ymddwyn mewn ffordd sy'n dangos fod y newyddion da am y Meseia yn wir. Wedyn, os bydda i'n dod i'ch gweld chi neu beidio, byddwch chi'n sefyll yn gadarn ac yn brwydro'n galed gyda'ch gilydd dros y newyddion da.
Peidiwch bod ag ofn y bobl hynny sy'n eich erbyn chi. Bydd hyn i gyd yn arwydd iddyn nhw y byddan nhw'n cael eu dinistrio, ond y cewch chi eich achub — a hynny gan Dduw.