Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philippi, gyda'r arolygwyr a'r diaconiaid: |
| 2 |
| Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist. |
| 3 |
| Yr wyf yn diolch i'm Duw yn fy holl adgof am danoch |
| 4 |
| yn barhaus ym mhob deisyfiad o'r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, |
| 5 |
| am eich cydweithrediad mewn perthynas i'r efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yn awr, |
| 6 |
| gan fod yn hyderus yn yr un peth hyn: y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei orphen hyd ddydd Iesu Grist; |
| 7 |
| fel y mae yn iawn i ni synied hyn am danoch oll, gan eich bod gennyf yn fy nghalon — yn fy rhwymau a hefyd yn fy amddiffyn a chadarnhâd yr efengyl — yn gyfrannogion â mi o'r gras hwn. |
| 8 |
| Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr wyf yn hiraethu am danoch oll yng nghalon Iesu Grist. |
| 9 |
| A hyn yr wyf yn ei weddio, ar i'ch cariad ymhelaethu etto fwy‐fwy mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, |
| 10 |
| fel y cymmeradwyoch y pethau rhagorol, fel y byddoch yn drylwyr a didramgwydd erbyn Dydd Crist, |
| 11 |
| wedi eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, yr hwn sydd trwy Iesu Grist er gogoniant a moliant i Dduw. |
| 12 |
| Ond ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, ddarfod i'm hamgylchiadau droi allan er llwyddiant i'r efengyl, |
| 13 |
| fel y darfu i'm rhwymau ddyfod yn amlwg yng Nghrist yn yr holl Bretorium ac i'r lleill oll; |
| 14 |
| a'r rhan fwyaf o'r brodyr, gan fod yn hyderus yn yr Arglwydd trwy fy rhwymau, ydynt fwy hyf o lawer i lefaru yn ddiofn Air Duw. |
| 15 |
| Rhai yn wir o genfigen a chynnen, a rhai hefyd o ewyllys da, a bregethant Grist; |
| 16 |
| rhai, yn wir, o gariad, gan wybod y'm gosodir er ymddiffyn yr efengyl; |
| 17 |
| a rhai o bleidgarwch a bregethant Grist, nid o egwyddor bur, gan feddwl cyfodi blinder i'm rhwymau. |
| 18 |
| Beth ynte? yn unig bod ym mhob modd, ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist yn cael ei gyhoeddi; ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ië, ac y llawenychaf; |
| 19 |
| canys gwn y try hyn allan i mi er iachawdwriaeth, trwy eich deisyfiad chwi a chyflenwad Yspryd Iesu Grist, |
| 20 |
| yn ol fy awyddfryd a'm gobaith nad mewn dim y'm cywilyddir, eithr ym mhob hyfder ymadrodd, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd a'i trwy farwolaeth. |
| 21 |
| Canys i mi, byw yw Crist, a marw sydd elw. |
| 22 |
| Ond os byw yn y cnawd — os hyn i mi fydd ffrwyth fy ngwaith — pa beth a ddewisaf, nis gwn; |
| 23 |
| ond cyfyngir arnaf o'r ddeu‐tu, gan fod gennyf y chwant i ymadael ac i fod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw; |
| 24 |
| eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. |
| 25 |
| A chennyf yr hyder hwn, gwn yr arhosaf ac y parhâf gyda chwi oll, er eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd, |
| 26 |
| fel y byddo i'ch ymffrost fod yn helaeth yng Nghrist Iesu ynof fi, trwy fy mhresennoldeb trachefn gyda chwi. |
| 27 |
| Yn unig ymddygwch yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un bynnag ai dyfod a'ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn gadarn mewn un yspryd, âg un enaid yn cyd‐ymdrech dros ffydd yr Efengyl, |
| 28 |
| ac heb eich brawychu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw; |
| 29 |
| canys i chwi y rhoddwyd dros Grist, nid yn unig gredu ynddo, ond hefyd ddyoddef drosto; |
| 30 |
| gan fod i chwi yr un ymdrech ag a welsoch ynof fi, ac yn awr a glywch ei bod ynof fi. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/philippians/001.mp3
4
1