Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Canys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad i mewn attoch, nad ofer fu; |
| 2 |
| eithr wedi dioddef o’r blaen, a’n sarhau, fel y gwyddoch, yn Philippi, buom hy yn ein Duw i lefaru wrthych Efengyl Dduw mewn mawr ymdrech. |
| 3 |
| Canys ein cyngor, nid o gam-arwain yr ydoedd, nac o aflendid, nac mewn twyll; |
| 4 |
| eithr fel y’n cymmeradwywyd gan Dduw i ymddiried i ni am yr Efengyl, felly yr ydym yn llefaru, nid fel yn rhyngu bodd i ddynion, eithr i Dduw, yr Hwn sydd yn profi ein calonnau. |
| 5 |
| Canys ni fuom un amser mewn ymadrodd gwenhieithus, fel y gwyddoch; nac mewn rhith cybydd-dod, Duw sydd dyst; |
| 6 |
| nac yn ceisio gogoniant gan ddynion, na chenych chwi na chan eraill; a ni yn gallu bod yn bwys arnoch, megis apostolion Crist; |
| 7 |
| eithr buom addfwyn yn eich mysg fel pan fydd mammaeth yn maethu ei phlant ei hun; |
| 8 |
| felly gan eich hoffi, boddlawn oeddym i gyfrannu i chwi nid yn unig Efengyl Dduw, eithr hefyd ein heneidiau ein hunain, am mai anwyl oeddych genym. |
| 9 |
| Canys cof yw genych, frodyr, ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, pregethasom i chwi Efengyl Dduw. |
| 10 |
| Chwychwi ydych dystion, a Duw hefyd, mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag attoch chwi y sy’n credu; |
| 11 |
| fel y gwyddoch y modd yr ymddygasom tua phob un o honoch, fel tad tuag at ei blant ei hun, |
| 12 |
| gan eich cynghori, a’ch diddanu, a thystiolaethu, fel y rhodiech yn deilwng i Dduw, yr Hwn sydd yn eich galw i’w deyrnas Ei hun a gogoniant. |
| 13 |
| Ac o achos hyn yr ydym ni hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd wedi derbyn o honoch y gair a glywsoch genym, sef Gair Duw, derbyniasoch ef nid megis gair dynion, eithr (fel y mae yn wir) megis Gair Duw, yr hwn sydd hefyd yn gweithio ynoch chwi y sy’n credu; |
| 14 |
| canys chwychwi a aethoch yn efelychwyr, frodyr, i eglwysi Duw y sydd yn Iwdea yng Nghrist Iesu; canys yr un pethau a ddioddefasoch chwi hefyd gan eich cyd-genedl, |
| 15 |
| fel hwythau hefyd gan yr Iwddewon, y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu a’r prophwydi, ac a’n herlidiasant ninnau, ac i Dduw nid ydynt yn rhyngu bodd, ac i bob dyn y maent yn wrthwynebus; |
| 16 |
| yn gwarafun i ni lefaru wrth y cenhedloedd fel yr achubid hwy, i gyflawni eu pechodau eu hunain yn wastadol; ac arnynt y daeth digofaint Duw hyd yr eithaf. |
| 17 |
| A ninnau, frodyr, wedi ein hamddifadu o honoch am ennyd awr, mewn gwyneb, nid mewn calon, a fuom fwy dros ben o astud i weled eich gwyneb, gydag awydd mawr; |
| 18 |
| o herwydd paham ewyllysiasom ddyfod attoch, myfi Paul yn wir unwaith a dwywaith, a lluddiodd Satan ni. |
| 19 |
| Canys pa beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein hymffrost? Onid chwychwi yw, ger bron ein Harglwydd Iesu yn Ei ddyfodiad Ef? |
| 20 |
| canys chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/1thessalonians/002.mp3
5
2