Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Canys gwyddoch eich hunain, frodyr, na fu ein hymweliad ni â chwi yn ofer; |
| 2 |
| eithr er dioddef ohonom o’r blaen a’n sarhau, fel y gwyddoch, yn Philipi, ymwrolasom yn ein Duw i draethu i chwi efengyl Duw yng nghanol ymdrech fawr. |
| 3 |
| Canys nid yw ein hapêl ni o gyfeiliornad nac o amhurdeb na thrwy ddichell; |
| 4 |
| eithr, fel rhai a gymeradwywyd gan Dduw i ymddiried iddynt am yr efengyl, felly y llefarwn, nid i foddio dynion, ond y Duw a brawf ein calonnau. |
| 5 |
| Canys ni chaed ni un amser a chennym ymadrodd gweniaith, fel y gwyddoch, na than gochl hunan-gais — Duw yn dyst; |
| 6 |
| ac ni cheisiasom glod gan ddynion, na chennych chwi na chan arall, er y gallem wasgu arnoch fel apostolion Crist; |
| 7 |
| eithr buom dyner yn eich mysg fel mamaeth yn maethu ei phlant ei hun: |
| 8 |
| felly y dymunem, gan gymaint ein serch tuag atoch, gyfrannu i chwi nid yn unig efengyl Duw, eithr hyd yn oed ein bywyd, oblegid daethoch yn annwyl gennym. |
| 9 |
| Canys cof gennych, frodyr, am ein llafur a’n lludded: gan weithio nos a dydd rhag pwyso ohonom ar neb ohonoch, pregethasom i chwi efengyl Duw. |
| 10 |
| Tystion ydych chwi a Duw mor sanctaidd a chyfiawn a difeius yr ymddygasom tuag atoch chwi sy’n credu, |
| 11 |
| a’r modd, fel y gwyddoch, y buom i chwi bob un ohonoch fel tad i’w blant ei hun, |
| 12 |
| yn eich annog a’ch calonogi a’ch tynghedu i rodio’n deilwng o’r Duw a’ch galwodd i’w deyrnas Ei Hun a’i ogoniant. |
| 13 |
| Am hyn, hefyd, diolchwn yn ddibaid i Dduw am i chwi, pan dderbyniasoch air cenadwri Duw oddi wrthym ni, ei dderbyn, nid fel gair dynion, eithr — yr hyn yw yn ddilys — fel gair Duw a weithia yn effeithiol ynoch chwi y credinwyr. |
| 14 |
| Canys aethoch chwi, frodyr, i efelychu eglwysi Duw yng Nghrist Iesu sydd yn Iwdea; oblegid dioddefasoch chwithau hefyd ar law eich cyd-genedl yn yr un modd â hwythau ar law yr Iddewon, |
| 15 |
| a laddodd yr Arglwydd Iesu a’r proffwydi, ac a’n herlidiodd ninnau; y rhai sydd yn digio Duw a gwrthwynebu pob dyn, |
| 16 |
| trwy warafun inni bregethu i’r cenhedloedd i’w hachub; nes cyflawni ohonynt yn wastadol fesur eu pechodau. Eithr y digofaint a ddaeth arnynt hyd yr eithaf. |
| 17 |
| A ninnau, frodyr, wedi ein gwahanu oddi wrthych dros ennyd awr, o ran golwg ac nid o ran calon, a fuom mewn hiraeth mawr yn taer ddymuno gweled eich wyneb. |
| 18 |
| Am hynny chwenychasom ddyfod atoch — myfi Pawl unwaith a dwywaith — ond Satan a’n rhwystrodd. |
| 19 |
| Canys beth yw ein gobaith, ein llawenydd, a choron ein hymffrost — beth onid chwychwi? — gerbron ein Harglwydd Iesu yn Ei ddyfodiad; Yn wir, chwychwi yw ein gogoniant a’n llawenydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/1thessalonians/002.mp3
5
2