Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Am hyny heb ymattal yn hwy, bu foddlawn genym ein gadael yn Athen, yn unig; |
| 2 |
| a danfonasom Timothëus, ein brawd, a gweinidog Duw yn Efengyl Crist, i’ch sefydlu a’ch diddanu chwi ynghylch eich ffydd; |
| 3 |
| nad ysgydwer neb gan y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd; |
| 4 |
| canys pan gyda chwi yr oeddym, rhag-ddywedasom i chwi ein bod ar fedr ein gorthrymmu, fel y digwyddodd ac y gwyddoch. |
| 5 |
| O herwydd hyn myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag mewn modd yn y byd ddarfod i’r temtiwr eich temtio, ac yn ofer yr aethai ein llafur. |
| 6 |
| Ond wedi dyfod o Timothëus yn awr attom oddiwrthych, a mynegi i ni newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a bod genych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled, fel yr ydym ninnau hefyd am danoch chwi; |
| 7 |
| o achos hyn diddanwyd ni, frodyr, o’ch rhan chwi, yn ein holl angenoctid a gorthrymder, |
| 8 |
| trwy eich ffydd chwi, canys yn awr byw ydym, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd. |
| 9 |
| Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw am danoch am yr holl lawenydd â’r hwn y llawenychwn o’ch achos ger bron ein Duw, |
| 10 |
| gan weddïo, nos a dydd, tros bob mesur, am weled eich gwyneb chwi, a pherffeithio diffygion eich ffydd? |
| 11 |
| A Duw Ei hun a’n Tad, ac ein Harglwydd Iesu, a gyfarwyddo ein ffordd attoch; |
| 12 |
| a’r Arglwydd a’ch lliosogo chwithau, ac a baro i chwi fod yn helaeth mewn cariad i’ch gilydd, ac i bawb, fel yr ydym ninnau hefyd i chwi, |
| 13 |
| er mwyn sefydlu eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd ger bron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i holl saint. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/1thessalonians/003.mp3
5
3