Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Yn ddiwethaf, frodyr, deisyfwn ac ymbiliwn yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym ni y modd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel, yn wir, yr ydych yn rhodio, ar i chwi ragori fwyfwy. |
| 2 |
| Canys gwyddoch pa gyfarwyddiadau a roesom i chwi trwy yr Arglwydd Iesu; |
| 3 |
| oblegid hyn yw ewyllys Duw — eich puredigaeth chwi, ymgadw ohonoch rhag godineb, |
| 4 |
| a dysgu bob un ohonoch gymryd cymar iddo ei hun mewn diweirdeb a pharch, |
| 5 |
| nid yn nwyd anlladrwydd fel y cenhedloedd nad adwaenant Dduw; |
| 6 |
| fel na byddo i neb wneuthur cam â’i frawd, na manteisio arno yn y peth hwn. Canys dialydd yw yr Arglwydd am y pethau hyn oll, megis y dywedasom o’r blaen wrthych a’ch dwys rybuddio. |
| 7 |
| Ni alwodd Duw ni i aflendid ond mewn purdeb. |
| 8 |
| Gan hynny, y neb a ddiystyra nid dyn a ddiystyra namyn y Duw sydd yn rhoddi i chwi Ei Ysbryd sanctaidd. |
| 9 |
| Ond am gariad brawdol nid oes eisiau ysgrifennu atoch, oblegid dysgir chwi eich hunain gan Dduw i garu eich gilydd. |
| 10 |
| Ac, yn wir, hyn a wnewch tuag at bawb o’r brodyr trwy holl Facedonia. Ond deisyfwn arnoch, frodyr, ragori fwyfwy |
| 11 |
| a bod yn eiddgar i fyw’n dawel, a dilyn bob un ei orchwyl ei hun, a gweithio â’ch dwylo, megis y’ch cyfarwyddasom, |
| 12 |
| fel y rhodioch yn weddaidd yng ngolwg y byd, ac na ddeloch ar ofyn neb. |
| 13 |
| Ni ddymunwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sydd yn huno fel na byddo i chwi ofidio fel y rhelyw nad oes iddynt obaith. |
| 14 |
| Canys os credwn i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd trwy Iesu fe ddwg Duw, gydag Ef, y sawl a hunodd. |
| 15 |
| A dywedwn hyn wrthych, yn ôl gair yr Arglwydd, na fydd i ni, y rhai byw a erys hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y sawl a hunodd. |
| 16 |
| Canys yr Arglwydd Ei Hun a ddisgyn o’r nef â gwysfloedd, â llef archangel, ac ag utgorn Duw, a’r meirw yng Nghrist a gyfyd gyntaf, |
| 17 |
| yna ninnau, y rhai byw, y rhai sy’n aros, a gipir gyda hwynt mewn cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr, ac felly byddwn gyda’r Arglwydd yn dragywydd. |
| 18 |
| Gan hynny, diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/1thessalonians/004.mp3
5
4