Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Ymhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn atolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynyddu fwyfwy. |
| 2 |
| Canys chwi a wyddoch pa orchmynion a roddasom i chwi trwy'r Arglwydd Iesu. |
| 3 |
| Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw ohonoch rhag godineb: |
| 4 |
| Ar fedru o bob un ohonoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch; |
| 5 |
| Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw: |
| 6 |
| Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialydd yw'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom. |
| 7 |
| Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd. |
| 8 |
| Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dyn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysbryd Glân ynom ni. |
| 9 |
| Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd. |
| 10 |
| Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o'r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy; |
| 11 |
| A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;) |
| 12 |
| Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim. |
| 13 |
| Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. |
| 14 |
| Canys os ydym yn credu farw Iesu, a'i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef. |
| 15 |
| Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni'r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu'r rhai a hunasant. |
| 16 |
| Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a'r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: |
| 17 |
| Yna ninnau'r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda'r Arglwydd. |
| 18 |
| Am hynny diddenwch eich gilydd â'r ymadroddion hyn. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/1thessalonians/004.mp3
5
4