Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Ac am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid oes arnoch angen am ysgrifennu atoch. |
| 2 |
| Gwyddoch yn sicr eich hunain mai megis lleidr yn y nos, felly y daw Dydd yr Arglwydd. |
| 3 |
| Pan ddywed pobl “Y mae’n dawel a diogel,” y pryd hwnnw y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf, fel gwewyr gwraig ar esgor, ac ni ddihangant ddim. |
| 4 |
| Ond, frodyr, nid ydych chwi yn y tywyllwch fel y goddiweddo’r dydd chwi fel lleidr. |
| 5 |
| Meibion y goleuni ydych chwi oll, a meibion y dydd. Nid eiddo’r nos na’r tywyllwch ydym ni. |
| 6 |
| Gan hynny, na chysgwn, fel y rhelyw, eithr byddwn effro a sobr, |
| 7 |
| canys y rhai a gysgant y nos y cysgant, a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant. |
| 8 |
| Eithr byddwn ni sy’n eiddo’r dydd yn sobr, wedi gwisgo amdanom lurig ffydd a chariad, a gobaith iachawdwriaeth yn helm, |
| 9 |
| oblegid ni neilltuodd Duw ni i ddigofaint ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist |
| 10 |
| a fu farw drosom, fel, pa un bynnag ai yn effro ai huno y byddom, y caffom fyw gydag ef. |
| 11 |
| Gan hynny, anogwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, megis yn wir y gwnewch. |
| 12 |
| Dymunwn arnoch, frodyr, gydnabod y rhai sy’n llafurio yn eich mysg ac yn eich blaenori yn yr Arglwydd ac yn eich cynghori. |
| 13 |
| Mawrygwch hwynt hefyd mewn cariad oherwydd eu gwaith. Byddwch heddychol yn eich plith eich hunain. |
| 14 |
| Dymunwn arnoch, frodyr, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y rhai digalon, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. |
| 15 |
| Gwyliwch rhag talu o neb ddrwg am ddrwg, eithr ceisiwch yn wastadol les eich gilydd a phawb. |
| 16 |
| Llawenhewch yn wastadol. |
| 17 |
| Gweddïwch yn ddi-baid. |
| 18 |
| Byddwch ddiolchgar am bopeth. Hynny yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. |
| 19 |
| Na ddiffoddwch yr Ysbryd. |
| 20 |
| Na ddirmygwch broffwydoliaethau. |
| 21 |
| Profwch bopeth, glynwch wrth y da. |
| 22 |
| Ymgedwch rhag pob math o ddrwg. |
| 23 |
| A Duw y tangnefedd Ei Hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll, a chadwer chwi ysbryd, enaid, a chorff, yn ddianaf a difai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. |
| 24 |
| Ffyddlon yw yr Hwn a’ch geilw ac Ef a’i gwna. |
| 25 |
| Frodyr, gweddïwch drosom ninnau. |
| 26 |
| Cyferchwch y brodyr oll â chusan sanctaidd. |
| 27 |
| Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd i ddarllen y llythyr i’r holl frodyr. |
| 28 |
| Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/1thessalonians/005.mp3
5
5