Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bawb, |
| 2 |
| dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster. |
| 3 |
| Peth da yw hyn, a chymeradwy gan Dduw, ein Gwaredwr, |
| 4 |
| sy'n dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd. |
| 5 |
| Oherwydd un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef Crist Iesu, yntau yn ddyn. |
| 6 |
| Fe'i rhoes ei hun yn bridwerth dros bawb, yn dystiolaeth yn yr amser priodol i fwriad Duw. |
| 7 |
| Ar fy ngwir, heb ddim anwiredd, dyma'r neges y penodwyd fi i dystio iddi fel pregethwr ac apostol, yn athro i'r Cenhedloedd yn y ffydd ac yn y gwirionedd. |
| 8 |
| Y mae'n ddymuniad gennyf, felly, fod y gwu375?r ym mhob cynulleidfa yn gweddo, gan ddyrchafu eu dwylo mewn sancteiddrwydd, heb na dicter na dadl; |
| 9 |
| a bod y gwragedd, yr un modd, yn gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair, ac yn eu harddu eu hunain, nid phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud, |
| 10 |
| ond gweithredoedd da, fel sy'n gweddu i wragedd sy'n honni bod yn dduwiol. |
| 11 |
| Rhaid i wragedd gymryd eu dysgu yn dawel gan lwyr ymostwng. |
| 12 |
| Ac nid wyf yn caniatu i wragedd hyfforddi, nac awdurdodi ar y gwu375?r; eu lle hwy yw bod yn dawel. |
| 13 |
| Oherwydd Adda oedd y cyntaf i gael ei greu, ac wedyn Efa. |
| 14 |
| Ac nid Adda a dwyllwyd; y wraig oedd yr un a dwyllwyd, a chwympo drwy hynny i drosedd. |
| 15 |
| Ond caiff ei hachub drwy ddwyn plant a bwrw y bydd gwragedd yn parhau mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd, ynghyd diweirdeb. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/1timothy/002.mp3
6
2