Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Paul, Apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, yn ol addewid y bywyd yr hwn sydd yng Nghrist Iesu, |
| 2 |
| at Timotheus, fy mhlentyn anwyl: Gras, trugaredd, tangnefedd, oddiwrth Dduw Dâd a Christ Iesu ein Harglwydd. |
| 3 |
| Y mac gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu o'm cyndadau mewn cydwybod bur, mor ddibaid y mae gennyf goffa am danat ti yn fy neisyfiadau, nos a dydd |
| 4 |
| yn hiraethu am dy weled di, gan gofio dy ddagrau, fel y'm llanwer o lawenydd; |
| 5 |
| wedi cael fy adgoffa o'r ffydd ddiragrith sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diamheu gennyf, ynot tithau hefyd. |
| 6 |
| O herwydd pa achos yr wyf yn dy adgoffa i ail‐ennyn yn fflam ddawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw i. |
| 7 |
| Canys ni roddes Duw i ni yspryd llwfrdra, eithr o allu, a chariad, a phwyll. |
| 8 |
| Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o honof finnau ei garcharor ef; eithr cyd‐oddef di gystudd ar ran yr efengyl yn ol gallu Duw, |
| 9 |
| yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd ni â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun, a gras yr hwn a roddwyd i ni cyn amseroedd yr oesoedd, |
| 10 |
| ond a amlygwyd yn awr trwy Ymddangosiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, yr hwn a ddirymmodd yr angau, ac a daflodd oleuni ar fywyd ac anllygredigaeth trwy yr efengyl; |
| 11 |
| i'r hon y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac Apostol, a dysgawdwr y Cenhedloedd. |
| 12 |
| Am ba achos yr wyf yn dyoddef hefyd y pethau hyn; ond nid oes arnaf gywilydd; canys mi a wn i bwy yr ymddiriedais, ac yr wyf yn argyhoeddedig ei fod yn alluog i warchod yr hyn a roddais i'w gadw erbyn y Dydd hwnnw. |
| 13 |
| Dal gynllun y geiriau iachus a glywaist gennyf fi, mewn ffydd a chariad yng Nghrist Iesu. |
| 14 |
| Y peth da a rodded i ti i'w gadw, gwarchod trwy yr Yspryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom. |
| 15 |
| Ti a wyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sydd yn Asia droi oddiwrthyf fi, o'r rhai y mae Phegelus a Hermogenes. |
| 16 |
| Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus; canys yn fynych y'm hadlonnodd i, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i; |
| 17 |
| eithr pan ddaeth i Rufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn, |
| 18 |
| ac a'm cafodd (rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw!) ac ym mha lawer o bethau y gwasanaethodd efe yn Ephesus, ti a wyddost yn dda iawn. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/2timothy/001.mp3
4
1