Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Tydi, gan hyny, fy mhlentyn, ymnertha yn y gras y sydd yng Nghrist Iesu, |
| 2 |
| a’r pethau a glywaist genyf trwy lawer o dystion, y rhai hyn dyro at ddynion ffyddlawn, y rhai a fyddant abl i ddysgu eraill hefyd. |
| 3 |
| Cydoddef gystudd ynghyda mi, megis milwr da i Grist Iesu. |
| 4 |
| Nid yw neb, pan yn milwrio yn ymblethu yng ngorchwylion y bywyd hwn, fel i’r hwn a’i dewisodd yn filwr y rhyngo fodd. |
| 5 |
| Ac os yn y campau yr ymdrecha neb, ni choronir onid yn gyfreithlawn yr ymdrecha. |
| 6 |
| I’r amaethydd y sy’n llafurio, y mae rhaid yn gyntaf gael rhan o’r ffrwythau. |
| 7 |
| Ystyria pa beth yr wyf yn ei ddywedyd, canys rhydd yr Arglwydd i ti ddeall ym mhob peth. |
| 8 |
| Cofia Iesu Grist, wedi Ei gyfodi o feirw, o had Dafydd, yn ol fy Efengyl, |
| 9 |
| yn yr hon yr wyf yn goddef cystudd hyd rwymau, megis drwg-weithredwr, eithr gair Duw ni rwymwyd. |
| 10 |
| O achos hyn pob peth yr wyf yn ei oddef er mwyn yr etholedigion, fel y bo iddynt hwy hefyd gael yr iachawdwriaeth y sydd yng Nghrist Iesu, ynghyda gogoniant tragywyddol. |
| 11 |
| Credadwy yw’r ymadrodd, Canys os buom feirw gydag Ef, byw fyddwn hefyd gydag Ef; |
| 12 |
| os goddef yr ydym, teyrn-aswn hefyd gydag Ef; os gwadwn Ef, Yntau hefyd a’n gwad ni; |
| 13 |
| os anffyddlawn ydym, Efe a barha yn ffyddlawn, canys gwadu Ei hun ni all Efe. |
| 14 |
| Y pethau hyn dwg i’ w cof, gan orchymyn iddynt, ger bron yr Arglwydd, nad ymrysonont â geiriau, am yr hyn nad yw dda i ddim, i ddadymchweliad y rhai sy’n clywed. |
| 15 |
| Bydd ddyfal i roddi dy hun yn brofedig i Dduw, yn weithiwr heb achos bod a chywilydd arno, yn iawn-rannu gair y gwirionedd. |
| 16 |
| Ond yr halogedig wag-seiniau gochel; canys i fwy o annuwioldeb yr ant rhagddynt; |
| 17 |
| a’u gair hwynt, fel cancr y bwytty; o’r rhai y mae Humenëus a Philetus; |
| 18 |
| y rhai, o ran y gwirionedd, a fethasant daro’r nod, gan ddywedyd fod yr adgyfodiad eisoes wedi digwydd, |
| 19 |
| a dadymchwelyd ffydd rhai y maent. Er hyny, sail ffurf Duw sy’n sefyll, a chanddo y sel hon, Edwaen yr Arglwydd y rhai sydd eiddo Ef, ac, Ymaith oddiwrth anghyfiawnder safed pob un sydd yn enwi enw’r Arglwydd. |
| 20 |
| Ond mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, eithr hefyd o bren ac o bridd, a rhai i anrhydedd a rhai i ddianrhydedd. |
| 21 |
| Os, gan hyny, y glanha neb ei hun oddiwrth y rhai hyn, bydd yn llestr i anrhydedd, wedi ei sancteiddio, yn gymmwys i’r meistr, i bob gwaith da yn ddarparedig. |
| 22 |
| Ond chwantau ieuengctid, ffo oddiwrthynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, heddwch, ynghyda’r rhai sy’n galw ar yr Arglwydd o galon bur. |
| 23 |
| Ond y cwestiynau ynfyd ac annysgedig, gochel, gan wybod y cenhedlant ymrafaelion; |
| 24 |
| a gwas yr Arglwydd ni ddylai ymrafaelio, eithr bod yn dirion tuag at bawb, yn athrawus, yn dioddef drygau, |
| 25 |
| mewn addfwynder yn cyweirio y rhai sy’n gwrthwynebu, os ysgatfydd y rhydd Duw iddynt edifeirwch i wybodaeth y gwirionedd, |
| 26 |
| ac ymsobri allan o fagl diafol, ar ol eu cymmeryd yn gaeth ganddo i’w ewyllys ef. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/2timothy/002.mp3
4
2