Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Tydi, ynteu, fy machgen, ymgryfha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. |
| 2 |
| A’r pethau a glywaist gennyf i yngŵydd tystion lawer, trosglwydda i wŷr o ymddiried, rhai a fyddo gymwys i addysgu eraill hefyd. |
| 3 |
| Cymer dy ran o oddef caledi fel milwr da i Iesu Grist. |
| 4 |
| Nid oes neb mewn rhyfel yn ei glymu ei hun wrth faterion eraill bywyd, fel y rhyngo fodd i’r sawl a’i derbyniodd yn filwr. |
| 5 |
| A hefyd os ymdrecha dyn yn y campau, nis coronir, onid ymdrecha yn ôl y rheolau. |
| 6 |
| Yr amaethwr a lafurio sydd i dderbyn yn gyntaf o’r cynnyrch. |
| 7 |
| Ystyria a ddywedaf, ac fe rydd yr Arglwydd i ti ddeall ym mhob dim. |
| 8 |
| Cadw mewn cof Iesu Grist, y sydd wedi atgyfodi oddi wrth y meirw, o hil Dafydd; dyma fy efengyl i. |
| 9 |
| Yng ngwasanaeth hon y goddefaf gam-drin hyd at rwymau fel drwg weithredwr, eithr gair Duw nis rhwymir. |
| 10 |
| Dyna paham yr wyf yn ymgynnal tan bob dim er mwyn y rhai dewisol, fel y cyrhaeddont hwythau yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu ynghyda gogoniant tragwyddol. |
| 11 |
| Gwir yw y gair; Canys os buom gydfarw ag ef, cawn gydfyw hefyd, |
| 12 |
| Os ymgynhaliwn, ni gawn gyd-deyrnasu, Os gwadwn, yntau a’n gwad ninnau, |
| 13 |
| Os palla’n ffydd, ef a bery’n ffyddlon, Canys ei wadu ei hun ni all. |
| 14 |
| Atgofia’r pethau hyn iddynt, gan eu tynghedu yngŵydd yr Arglwydd i beidio ag ymryson am eiriau, peth nad yw fuddiol i ddim ond dymchwelyd y gwrandawyr. |
| 15 |
| Bydd ddyfal i’th gyflwyno dy hun yn brofedig i Dduw, yn weithiwr di-wrid, yn iawn rannu gair y gwirionedd. |
| 16 |
| Ond rhag anghysegredig wag siaradach ymgadw, canys ymlaen yr ânt i fwy o annuwioldeb, |
| 17 |
| a’u gair a ysa fel cancr; ohonynt hwy y mae Hymenaeos a Philetos, |
| 18 |
| y rhai a gamfwriodd ynglŷn â’r gwirionedd: dywedyd a wnânt ddigwydd o’r atgyfodiad eisoes a dadymchwel ffydd rhai. |
| 19 |
| Eto i gyd cadarn sylfaen Duw sydd yn dal, ac arni’r argraff hon, “Fe edwyn yr Arglwydd ei bobl ei hun,” ac “Ymadawed â drygioni bawb a enwo enw’r Arglwydd.” |
| 20 |
| Mewn tŷ mawr y mae llestri nid yn unig o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd, rhai yn urddasol a rhai yn anurddasol. |
| 21 |
| Os ymbura neb, ynteu, oddi wrth y drygau hyn, ef a fydd lestr urddasol, cysegredig, at law’r meistr yn barod i bob gwaith da. |
| 22 |
| Eithr nwydau ieuenctid, ffo rhagddynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd yng nghwmni’r sawl sy’n galw ar yr Arglwydd o galon bur. |
| 23 |
| Eithr ffôl ac anniwylliedig ddyfaliadau gochel, gan wybod y magant gynhennau. |
| 24 |
| Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn hiroddefus, |
| 25 |
| yn mwynaidd hyfforddi’r gwrthwynebwyr. Pwy a ŵyr na rydd Duw rywbryd iddynt edifeirwch i ganfod y gwirionedd |
| 26 |
| a sobri allan o fagl y diafol a’u dal gan y gwas i wneuthur ewyllys Duw. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/2timothy/002.mp3
4
2