Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Felly, fy mab, gad i haelioni rhyfeddol y Meseia Iesu dy wneud di'n gryf. |
| 2 |
| Dywed di wrth eraill beth glywaist ti fi'n ei ddweud o flaen llawer o dystion — rhanna'r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill. |
| 3 |
| A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia. |
| 4 |
| Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy'n poeni pawb arall — mae e eisiau plesio ei gapten. |
| 5 |
| Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau — fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau. |
| 6 |
| A'r ffermwr sy'n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o'r cnwd. |
| 7 |
| Meddylia am beth dw i'n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd. |
| 8 |
| Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi. |
| 9 |
| A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef — hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw! |
| 10 |
| Felly dw i'n fodlon diodde'r cwbl er mwyn i'r bobl mae Duw wedi eu dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol. |
| 11 |
| Mae'r hyn sy'n cael ei ddweud mor wir!: Os buon ni farw gyda'r Meseia, byddwn ni hefyd yn byw gydag e; |
| 12 |
| os byddwn ni'n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni'n gwadu ein bod ni'n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni; |
| 13 |
| Os ydyn ni'n anffyddlon, bydd e'n siŵr o fod yn ffyddlon; oherwydd dydy e ddim yn gallu gwadu pwy ydy e. |
| 14 |
| Dal ati i atgoffa pobl o'r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae'n drysu'r bobl sy'n gwrando. |
| 15 |
| Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti — dy fod di'n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o'i waith. Bydd yn un sy'n esbonio'r gwir yn iawn. |
| 16 |
| Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw. |
| 17 |
| Mae'n rywbeth sy'n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus |
| 18 |
| — maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw'n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl! |
| 19 |
| Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll — mae fel carreg sylfaen gadarn, a'r geiriau hyn wedi eu cerfio arni: “Mae'r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy'n dweud eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.” |
| 20 |
| Mewn tŷ crand mae rhai llestri wedi eu gwneud o aur ac arian, a rhai eraill yn llestri o bren neu'n llestri pridd. Mae'r llestri aur ac arian yn cael eu defnyddio ar achlysuron arbennig, ond y lleill at ddefnydd pob dydd. |
| 21 |
| Os bydd rhywun yn cadw draw o'r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i'r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da. |
| 22 |
| Ond rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o'i gariad a'i heddwch. Dyma sut mae'r rhai sy'n cyffesu enw'r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn. |
| 23 |
| Paid gwastraffu dy amser gyda rhyw ddyfalu dwl. Dydy pethau felly'n gwneud dim ond achosi gwrthdaro. |
| 24 |
| Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb. Dylai allu dysgu pobl eraill, a pheidio byth â dal dig. |
| 25 |
| Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro'r rhai sy'n tynnu'n groes iddo. Wedi'r cwbl mae bob amser yn bosib y bydd Duw yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu'r gwir; |
| 26 |
| callio, a dianc o drap y diafol. Ond ar hyn o bryd maen nhw'n gaeth ac yn gwneud beth mae'r diafol eisiau. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/2timothy/002.mp3
4
2