Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. |
| 2 |
| A'r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda'r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd. |
| 3 |
| Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. |
| 4 |
| Nid yw neb a'r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau'r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn filwr. |
| 5 |
| Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. |
| 6 |
| Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau. |
| 7 |
| Ystyria'r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a'r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth. |
| 8 |
| Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: |
| 9 |
| Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. |
| 10 |
| Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. |
| 11 |
| Gwir yw'r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: |
| 12 |
| Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ninnau: |
| 13 |
| Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. |
| 14 |
| Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. |
| 15 |
| Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. |
| 16 |
| Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. |
| 17 |
| A'u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus; |
| 18 |
| Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. |
| 19 |
| Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo'r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder. |
| 20 |
| Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch. |
| 21 |
| Pwy bynnag gan hynny a'i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. |
| 22 |
| Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. |
| 23 |
| Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. |
| 24 |
| Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar, |
| 25 |
| Mewn addfwynder yn dysgu'r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd; |
| 26 |
| A bod iddynt ddyfod i'r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/2timothy/002.mp3
4
2