Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Yr wyf yn gorchymyn i ti yn ddifrifol gerbron Duw a Christ Iesu, yr hwn sydd ar fedr barnu y byw a'r meirw, a myn ei Ymddangosiad a'i Deyrnas, |
| 2 |
| pregetha y gair; bydd dyfal mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, cynghora, gyda phob hir‐ymaros ac addysg. |
| 3 |
| Canys bydd amser pan na ddyoddefont yr athrawiaeth iachus, eithr yn ol eu chwantau eu hunain hwy a bentyrrant athrawon iddynt eu hunain, gan fod eu clyw wedi merwino; |
| 4 |
| ac a droant eu clustiau oddiwrth y gwirionedd, ac a droant o'r neilltu at chwedlau. |
| 5 |
| Ond tydi, bydd yn sobr ym mhob peth, goddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth. |
| 6 |
| Canys yr wyf fi eisoes yn cael fy offrymmu, a thymhor fy ymadawiad i a ddaeth. |
| 7 |
| Yr wyf wedi ymdrechu yr ymdrech dda, yr wyf wedi gorphen y rhedegfa, yr wyf wedi cadw y ffydd. |
| 8 |
| O hyn allan y mae mewn cadw i mi goron cyfiawnder, yr hon a rydd yr Arglwydd i mi yn y dydd hwnnw, y Barnwr cyfiawn: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb sydd wedi caru ei Ymddangosiad ef. |
| 9 |
| Bydd ddyfal i ddyfod attaf ar fyrder, |
| 10 |
| canys Demas a'm gadawodd i, wedi caru y byd presennol, ac a aeth i Thessalonica; Crescens i Galatia; Titus i Dalmatia; |
| 11 |
| Luc yn unig sydd gyda mi. Cymmer i fyny Marc ar y ffordd, a dwg ef gyda thi, canys buddiol iawn yw ef i mi er gwasanaeth. |
| 12 |
| Tychicus a ddanfonais i Ephesus. |
| 13 |
| Y gochl a adewais yn Troas gyda Carpus, pan ddelych, tyred a hi, a'r llyfrau, ac yn enwedig y memrynnau. |
| 14 |
| Alexander y gôf a wnaeth i mi yn gyhoeddus ddrygau lawer: yr Arglwydd a dâl iddo yn ol ei weithredoedd. |
| 15 |
| Yr hwn hefyd gwylia dithau rhagddo, canys ef a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni. |
| 16 |
| Yn fy amddiffyniad cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant; na chyfrifer hyn iddynt. |
| 17 |
| Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd, fel trwof fi y byddai i'n cennadwri gael ei chyhoeddi yn llawn, ac y clywai yr holl genhedloedd: a gwaredwyd fi o enau y llew. |
| 18 |
| A'r Arglwydd a'm gwared oddiwrth bob gwaith drwg, ac a'm ceidw i'w deyrnas nefol: i'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oesoedd, Amen. |
| 19 |
| Cyfarch Prisca ac Acwila, a theulu Onesiphorus. |
| 20 |
| Erastus a arhosodd yn Corinth, ond Trophimus a adewais yn Miletus yn glaf. |
| 21 |
| Ymdrecha i ddyfod cyn y gauaf. Y mae Eubulus yn dy gyfarch, a Pudens, a Linus, a Chlaudia, a'r brodyr oll. |
| 22 |
| Yr Arglwydd fyddo gyda'th yspryd. Gras fyddo gyda chwi. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/2timothy/004.mp3
4
4