Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Iago, gwas Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, at y Deuddeg Llwyth y rhai sydd o'r Gwasgariad. Byddwch lawen, |
| 2 |
| Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amrywiol brofedigaethau, |
| 3 |
| gan wybod fod y prawf o'ch ffydd yn gweithredu amynedd; |
| 4 |
| ond caffed amynedd ei pherffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyfan, heb fod yn ddiffygiol mewn dim. |
| 5 |
| Ac os yw neb o honoch yn ddiffygiol mewn doethineb, ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi i bawb yn ddiamodol ac heb ddannod, a rhoddir iddo. |
| 6 |
| Eithr ceisied mewn ffydd, heb ameu dim; canys yr hwn sydd yn ameu sydd gyffelyb i don y môr a yrrir gan y gwynt ac a deflir; |
| 7 |
| canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd— |
| 8 |
| gŵr dau‐ddyblyg ei feddwl, ansefydlog yn ei holl ffyrdd. |
| 9 |
| Eithr ymffrostied y brawd o radd isel yn ei ddyrchafiad, |
| 10 |
| a'r goludog, yn ei ymddarostyngiad, canys megys blodeuyn y glaswelltyn yr ä heibio. |
| 11 |
| Canys cyfododd yr haul gyda'r gwynt poeth, ac a ddeifiodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd ymaith, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y goludog a wywa ymaith yn ei orchwylion. |
| 12 |
| Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth, canys wedi dal y prawf, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef. |
| 13 |
| Na ddyweded neb pan demtier ef, Oddiwrth Dduw y'm temtir, canys Duw sydd amhosibl ei demtio gan ddrygau, ac nid yw efe ei hun yn temtio neb; |
| 14 |
| ond temtir pob un pan dynner ef ymaith ac yr huder ef gan ei Chwant ei hun. |
| 15 |
| Yna Chwant wedi beichiogi a esgor ar Bechod, a Phechod, wedi dyfod i'w lawn dŵf, a esgor ar Farwolaeth. |
| 16 |
| Fy mrodyr anwyl, na chyfeiliornwch: |
| 17 |
| Pob rhoddiad da a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dâd y Goleuadau, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad na chysgod a gyfyd o gylchdroad. |
| 18 |
| O'i ewyllys ei hun efe a'n cenhedlodd ni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ni yn rhyw flaen‐ffrwyth o'i greaduriaid. |
| 19 |
| Gwyddoch hyn fy anwyl frodyr; ond bydded pob un yn gyflym i wrandaw, yn araf i lefaru, yn araf i ddigofaint; |
| 20 |
| canys digofaint gŵr nid yw yn gweithredu cyfiawnder Duw. |
| 21 |
| O herwydd paham gan roddi heibio bob budreddi ac amlder drygioni, mewn addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau. |
| 22 |
| Eithr byddwch yn wneuthurwyr y Gair ac nid gwrandawyr yn unig, gan dwyllo eich hunain. |
| 23 |
| Canys os yw neb yn wrandawr y Gair ac nid yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn sylwi yn graffus ar ei wynebpryd naturiol mewn drych: |
| 24 |
| canys efe a sylwodd yn graffus arno ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn ebrwydd yr anghofiodd pa fath un ydoedd. |
| 25 |
| Ond yr hwn sydd yn edrych yn eiddgar i'r Gyfraith berffaith, sef Cyfraith rhyddid, ac yn parhau felly, gan fod nid yn wrandâwr anghofus ond yn wneuthurwr egniol, hwn a fydd dedwydd yn ei waith. |
| 26 |
| Os yw neb yn meddwl ei hun ei fod yn grefyddol, heb ffrwyno ei dafod, ond yn twyllo ei galon, ofer yw crefydd hwnnw. |
| 27 |
| Crefydd bur a dihalog gerbron Duw a'r Tâd yw hyn: ymweled â'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/james/001.mp3
5
1