Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Fy mrodyr, nid gyda derbyn gwynebau bydded genych ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant. |
| 2 |
| Canys os daw i mewn i’ch cynnull-fan ŵr â modrwy aur, mewn gwisg ddisglaer, a dyfod i mewn hefyd o dlodyn mewn gwisg fudr; |
| 3 |
| ac edrych o honoch ar yr hwn sydd wedi ymwisgo â’r wisg ddisglaer, a dywedyd, Tydi, eistedd yma mewn lle da, ac wrth y tlodyn y dywedoch, Tydi, saf accw, |
| 4 |
| neu eistedd is law fy ’stol-droed, oni wahanwyd chwi yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr drwg eu meddyliau? |
| 5 |
| Gwrandewch, fy mrodyr anwyl; oni fu i Dduw ddewis y tlodion yn y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu Ef? |
| 6 |
| Ond chwychwi a ddianrhydeddasoch y tlodyn! Onid y rhai goludog sy’n tra-arglwyddiaethu arnoch, a hwynt-hwy sydd yn eich llusgo ger bron brawdleoedd? |
| 7 |
| Onid hwy sy’n cablu yr enw ardderchog a alwyd arnoch? |
| 8 |
| Beth bynnag, os y gyfraith frenhinol a gyflawnwch, yn ol yr Ysgrythyr, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun,” da yr ydych yn gwneuthur; |
| 9 |
| ond os derbyn gwyneb yr ydych, pechod yr ydych yn ei wneud, yn cael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megis troseddwyr; |
| 10 |
| canys y neb sydd a’r holl Gyfraith yn cael ei chadw ganddo, ond tripio o hono mewn un pwngc, o’r oll yr aeth yn euog. |
| 11 |
| Canys yr Hwn a ddywedodd, “Na odineba,” a ddywedodd hefyd, “Na ladd;” ac os godinebu nad wyt, ond yn lladd, yn droseddwr y Gyfraith yr aethost. |
| 12 |
| Felly lleferwch, ac felly gwnewch, fel trwy gyfraith rhyddid i gael eich barnu; |
| 13 |
| canys y farn sydd ddi-drugaredd i’r hwn na wnaeth drugaredd. Ymffrostio y mae trugaredd uwch ben barn. |
| 14 |
| Pa beth yw’r llesad, fy mrodyr, os dywaid neb, Y mae ffydd genyf, ond gweithredoedd heb fod ganddo? A ddichon ffydd ei gadw ef? |
| 15 |
| Os brawd neu chwaer fydd noeth, |
| 16 |
| ac mewn eisiau ymborth beunyddiol, a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, a llanwer chwi, ond heb roddi o honoch iddynt y pethau angenrheidiol i’r corph, pa beth yw’r llesad? |
| 17 |
| Felly hefyd ffydd, os na fydd ganddi weithredoedd, marw yw ynddi ei hun. |
| 18 |
| Eithr fe ddywaid rhyw un, Tydi wyt a ffydd genyt; ac myfi wyf a gweithredoedd genyf: dangos i mi dy ffydd yn wahan oddiwrth dy weithredoedd; ac myfi a ddangosaf i ti, trwy fy ngweithredoedd, fy ffydd i. |
| 19 |
| Tydi wyt yn credu mai un yw Duw: da yr wyt yn gwneuthur; a’r cythreuliaid a gredant, ac a arswydant. |
| 20 |
| Ond a ewyllysi di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, yn ddifudd? |
| 21 |
| Abraham ein tad, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymmodd Itsaac, ei fab, ar yr allor? |
| 22 |
| Gweli yr oedd ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd, a thrwy’r gweithredoedd ffydd a berffeithiwyd; |
| 23 |
| a chyflawnwyd yr Ysgrythyr y sy’n dywedyd, “A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder; a chyfaill Duw y galwyd ef.” |
| 24 |
| Gwelwch mai trwy weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid trwy ffydd ar ei phen ei hun. |
| 25 |
| Ac yr un ffunud, Rahab hefyd, y buttain, onid trwy weithredoedd y’i cyfiawnhawyd, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? |
| 26 |
| Canys fel y mae’r corph, yn wahan oddiwrth yr yspryd, yn farw; felly hefyd ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, marw yw. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/james/002.mp3
5
2