Cyfieithiad Urdd Graddedigion 1945
|
| 1 |
| Fy mrodyr, na foed gennych gyda derbyn wyneb eich ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant. |
| 2 |
| Canys o daw i’ch cynulliad ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd ŵr tlawd mewn gwisgoedd budron, |
| 3 |
| ac edrych ohonoch ar y gŵr â’r dillad gwychion, a dywedyd: “Eistedd di yma yn dda dy le,” ac wrth y tlawd ddywedyd: “Saf dithau yna, neu, eistedd is law fy stôl droed i,” |
| 4 |
| oni wnewch ynoch eich hunain ragor rhwng y naill â’r llall, ac oni byddwch farnwyr yn ôl drwg ddadleuon? |
| 5 |
| Gwrandewch, fy mrodyr annwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i’r rhai a’i caro? |
| 6 |
| Eithr chwithau, dibrisio’r tlawd a wnaethoch. Onid y cyfoethogion sydd yn gormesu arnoch a’ch llusgo i’r brawdleoedd eu hunain? |
| 7 |
| Onid hwy sydd yn cablu’r enw gwiw a alwyd arnoch? |
| 8 |
| Yn wir, os cyflawni’r gyfraith frenhinol yr ydych, yn ôl yr ysgrythur: Câr dy gymydog fel ti dy hun, da y gwnewch. |
| 9 |
| Eithr os derbyn wyneb yr ydych, pechod a wnewch, ac fe’ch condemnir gan y gyfraith fel troseddwyr. |
| 10 |
| Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd, a thramgwyddo mewn un peth, euog fydd o’r cwbl. |
| 11 |
| Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, hefyd a ddywedodd, Na ladd. Ac oni odinebi, eithr lladd ohonot, ti fyddi droseddwr cyfraith. |
| 12 |
| Felly lleferwch, ac felly gweithredwch, megis rhai ar gaffael eu barnu wrth gyfraith rhyddid. |
| 13 |
| Canys barn ddidrugaredd fydd i’r sawl na wnaeth drugaredd. Trech trugaredd na barn. |
| 14 |
| Pa les, fy mrodyr, ddywedyd o neb fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A ddichon ei ffydd ei achub ef? |
| 15 |
| O bydd brawd neu chwaer yn brin o ddillad, a bod eisieu ganddynt ymborth beunyddiol, |
| 16 |
| a dywedyd o un ohonoch wrthynt, “Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch ac ymddigonwch,” eithr heb roddi iddynt reidiau’r corff, pa les hynny? |
| 17 |
| Felly hefyd, ffydd, oni bo ganddi weithredoedd, marw ydyw ynddi ei hun. |
| 18 |
| Eithr dywed rhywun: “Ffydd sydd i ti, a gweithredoedd i minnau.” Dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau, dangosaf iti fy ffydd o’m gweithredoedd. |
| 19 |
| Credu yr wyt ti mai un yw Duw? Gwych y gwnei: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu — ac yn arswydo. |
| 20 |
| Eithr a fynni wybod, ti ddyn gwagsaw, mai diffrwyth yw ffydd heb weithredoedd? |
| 21 |
| Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, wrth offrymu Isaac ei fab ar yr allor? |
| 22 |
| Gweli gyd-weithio o ffydd â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd ddarfod perffeithio ei ffydd, |
| 23 |
| a chyflawnwyd yr ysgrythur a ddywed: A chredodd Abraham i Dduw, ac fe’i cyfrifwyd iddo’n gyfiawnder, a chyfaill Duw y galwyd ef. |
| 24 |
| Gwelwch mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. |
| 25 |
| Ac yn yr un ffunud, Rahab y butain hithau, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, wrth dderbyn ohoni’r cenhadau a thrwy ffordd arall eu gollwng ymaith? |
| 26 |
| Canys megis am y corff heb ysbryd, mai marw yw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1945/james/002.mp3
5
2