Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb. |
| 2 |
| Oblegid os daw i mewn i'ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; |
| 3 |
| Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo'r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: |
| 4 |
| Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? |
| 5 |
| Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef? |
| 6 |
| Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw'r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? |
| 7 |
| Onid ydynt hwy'n cablu'r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi? |
| 8 |
| Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: |
| 9 |
| Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. |
| 10 |
| Canys pwy bynnag a gadwo'r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl. |
| 11 |
| Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu'r gyfraith. |
| 12 |
| Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. |
| 13 |
| Canys barn ddidrugaredd fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn. |
| 14 |
| Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? |
| 15 |
| Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, |
| 16 |
| A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau'r corff; pa les fydd? |
| 17 |
| Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig. |
| 18 |
| Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau. |
| 19 |
| Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. |
| 20 |
| Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? |
| 21 |
| Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? |
| 22 |
| Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio. |
| 23 |
| A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef. |
| 24 |
| Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. |
| 25 |
| Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi'r cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall? |
| 26 |
| Canys megis y mae'r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/james/002.mp3
5
2