Cyfieithiad Briscoe 1894
|
| 1 |
| Nac ewch yn llawer o ddysgawdwyr, fy mrodyr, gan wybod mai barnedigaeth fwy a dderbyniwn, |
| 2 |
| canys llawer tripiad a wnawn, yr oll o honom; ac os ar air na thripia neb, hwnw sydd ŵr perffaith, yn gallu ffrwyno’r holl gorph hefyd. |
| 3 |
| Ac os ffrwynau’r meirch a roddwn yn eu safnau fel yr ufuddhaont i ni, eu holl gorph hefyd a drown o amgylch. |
| 4 |
| Wele, y llongau hefyd, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, a droir o amgylch â llyw bychan iawn, lle y mae tuedd y llywydd yn ewyllysio. |
| 5 |
| Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, a phethau mawrion a ffrostia. Wele, gan mor ychydig dân cymmaint coed a gynneuir. |
| 6 |
| A’r tafod sydd dân; y byd o anghyfiawnder, y tafod, sydd yn ein haelodau, yr hwn sy’n halogi’r holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna. |
| 7 |
| Canys pob math o wyllt-filod ac ehediaid, ac o gropiedyddion, a phethau yn y môr, sy’n cael eu dofi, ac wedi cael eu dofi, |
| 8 |
| gan natur ddynol; ond y tafod, nid oes neb o ddynion a all ei ddofi ef: drwg diorphwys yw, gorlawn yw o wenwyn angeuol. |
| 9 |
| Ag ef y bendithiwn yr Arglwydd a Thad; ac ag ef y melldithiwn ddynion, y rhai ar gyffelybiaeth Duw y’u gwnaed. |
| 10 |
| O’r un genau, dyfod allan y mae bendithiad a melldithiad! Ni ddylai, fy mrodyr, y pethau hyn fod felly. |
| 11 |
| A ydyw ffynnon, o’r un llygad, yn tywallt allan yr hyn sydd felus a’r hyn sydd chwerw? |
| 12 |
| A all, fy mrodyr, pren ffigys ddwyn olifaid; neu winwydden, ffigys? Ni all chwaith yr hallt roddi dwfr melus. |
| 13 |
| Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? Dangosed, trwy ei ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. |
| 14 |
| Ond os eiddigedd chwerw a chynnen sydd genych yn eich calon, nac ymffrostiwch, a chelwyddu, |
| 15 |
| yn erbyn y gwirionedd: nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; eithr daearol, anfeilaidd, cythreulig yw; |
| 16 |
| canys lle y mae eiddigedd a chynnen, yno y mae afreolaeth a phob gweithred ddrwg. |
| 17 |
| Ond y doethineb oddi uchod, yn gyntaf pur yw, a chwedi’n yn heddychlawn, addfwyn, hawdd ei berswadio, gorlawn o drugaredd a ffrwythau da, heb ammeuaeth, |
| 18 |
| ac yn ddiragrith: a ffrwyth cyfiawnder, mewn heddwch yr heuir i’r rhai sy’n gwneuthur heddwch. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh1894/james/003.mp3
5
3