A'R 1567
|
| 1 |
| NA cheisiwch fod yn veistred lawer, fymrodyr, gan wybod y cawn i farnedigaeth glettach. |
| 2 |
| Can ys mewn llawer o bethay y ddym ni pawb yn llithro. O byð y neb na lithro ar air, hwnw sy wr perffaith, ac a ddichin ffrwynor holl corph. |
| 3 |
| Nycha, y ddym yn dodi ffrwynay ymhennau r meirch yw gwneuthyr yn vfydd i ni, ac y ddym yn troi ey cyrff hwynt oddiamgylch. |
| 4 |
| Nycha hevyd y llongay, rrain cyd bont mowrion, a gwynt creulawn yw gyru, etto i troi hwynt o amgylch a wneir a llyw bychan bach, lle i mynnor llowydd. |
| 5 |
| Velly y tavawd hevyd aylod bychan yw, yn bostio pethay mawr ion, nycha faint o ddeunydd a ynnynna y chydic dan. |
| 6 |
| A’r tavawd tan ydyw, ie byd o enwiredd: velly i gosodet y tavawd y mysc ein ayloday, mal y llygra ef yr holl corph, yn fflamhau troell naturieth, ac yn fflamedic can vffern. |
| 7 |
| Cans holl natur ynifeiliaid, ac adar, ac ymlusciaid, a’r petheu yn y mor a ddofir ac a ddofwyd can natur ddyniol. |
| 8 |
| Y tavawd hagen nis dichin neb rryw ddyn y ddofi. Drwg anllyfodraythus ydyvv, yn llawn gwenwyn marwol. |
| 9 |
| Trwyddo ef i bendi gwn ni Ddyw a’r tad, a’ thrwyddo ef i melltigwn ni ddynion, a wnaethbwyd ar lun Dyw. |
| 10 |
| Or vn genau i daw allan bendith a melltith: fymrodyr ni ddylaynt y pethay hyn fod felly. |
| 11 |
| A ðyry ffynnon or vn man ddwr melus, a’ chwerw? |
| 12 |
| A ddichin y pren ffeigys, fymrodyr, ddwyn olifaid, neu winwdden ffeigys? velly ny ddichon vn ffynnon roddi dwr hallt a’ chroyw. |
| 13 |
| Pwy sy wr doeth a gwybodaeth cantho yn ych mysc chwi? dangosed trwy ymwereddiad da eu weithredoedd mewn rrowiogrwydd doythineb. |
| 14 |
| Eithr o bydd cenychi cenfigen chwerw, ac ymryson yn ych calonay, nac ymlawenhewch, ac na fyddwch celwyddog yn erbyn y gwirionedd. |
| 15 |
| Y doythineb hyn nid oddi fyny dd y discin, eithr dayarawl yvv, enifeilaidd, a’ diawlaidd. |
| 16 |
| Can ys lle bo cenfigen ac ymryson, yno y bydd tervysc, a phob gweithred ddrwc. |
| 17 |
| Eithr y doythineb y sydd o ddifyny dd, yn gynta pur ydyw, wedi hynny heddychol, boneddigaið, hawdd y thrino, llawn trugaredd a’ ffrwythydd da yn ddiddosparth, ac yn ddiffuant. |
| 18 |
| A ffrwyth cyfiawnder a heir mewn heddwch, ir rrai heddychawl. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshsby/james/003.mp3
5
3