Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| O ba le y mae rhyfeloedd ac o ba le y mae ymladdau yn eich plith, onid o hyn yma, o'ch melus‐chwantau, y rhai sydd yn milwrio yn eich aelodau? |
| 2 |
| Chwenychu yr ydych ac nid ydych yn cael; lladd yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn alluog i gael; ymladd a rhyfela yr ydych. Nid oes gennych am nad ydych yn gofyn. |
| 3 |
| Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, o herwydd eich bod yn gofyn gydag amcan drwg, fel y galloch wario yn eich melus‐chwantau. |
| 4 |
| Chwi odinebesau! oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill y byd y mae yn troi yn elyn i Dduw. |
| 5 |
| Neu a dybiwch chwi fod yr Ysgrythyr yn llefaru yn ofer? Yr Yspryd hwnnw a wnaeth efe i drigo ynom, y mae yn dyheu am danom hyd y nod i bwynt eiddigedd. |
| 6 |
| Eithr grâs mwy y mae yn ei roddi, o herwydd paham y dywed, Y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig. |
| 7 |
| Ymddarostyngwch gan hynny, i Dduw, ond gwrthsefwch y Diafol, ac efe a ffy oddiwrthych. |
| 8 |
| Nesêwch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhêwch eich dwylaw, bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi ddau‐ddyblyg eich meddwl. |
| 9 |
| Ymgystuddiwch, a galerwch, ac wylwch. Troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn brudd‐der. |
| 10 |
| Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a'ch dyrchafa chwi. |
| 11 |
| Na leferwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn llefaru yn erbyn brawd, neu yn barnu ei frawd, y mae yn llefaru yn erbyn y Gyfraith, ac yn barnu y Gyfraith; eithr od wyt ti yn barnu y Gyfraith, nid wyt wneuthurwr y Gyfraith, eithr ei barnwr. |
| 12 |
| Un yw'r Deddf‐roddwr a'r Barnwr, yr hwn a ddichon gadw a distrywio: ond pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu dy gymydog? |
| 13 |
| Dêwch yn awr, chwi sydd yn dywedyd, Heddyw neu yfory ni a awn i'r ddinas hon, ac a dreuliwn yno flwyddyn, ac a farchnatâwn, ac a enillwn |
| 14 |
| — y rhai ni wyddoch ddim am yfory. Beth yw eich einioes chwi? Canys tarth ydych chwi, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac yna yn diflannu — |
| 15 |
| yn lle dywedyd o honoch, Os yr Arglwydd a'i myn, ni a fyddwn byw, a ni a wnawn hyn neu hynny. |
| 16 |
| Eithr yn awr ymffrostio yr ydych yn eich ymhoniadau gwag: pob ymffrost o'r fath, drwg yw. |
| 17 |
| I'r hwn, gan hynny, sydd yn gwybod pa fodd i wneuthur daioni, ac nad yw yn ei wneuthur, pechod yw iddo. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/james/004.mp3
5
4