Newydd gyda Nodiadau 1894
|
| 1 |
| Dêwch yn awr, chwi rai goludog, wylwch ac udwch am eich adfydau sydd yn dyfod arnoch. |
| 2 |
| Eich golud a bydrodd, a'ch gwisgoedd a fwytâwyd gan bryfed; |
| 3 |
| Eich aur a'ch arian a rydodd; a'u rhŵd hwynt fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwyty eich cnawd fel tân. Yr ydych wedi pentyrru trysorau yn y dyddiau ydynt ddiweddaf. |
| 4 |
| Wele, y mae cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gadwyd yn ol o'ch rhan chwi, yn llefain allan; a gwaedd y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y Lluoedd. |
| 5 |
| Moethus fuoch ar y ddaear, ac anllad; pesgi eich calonnau a wnaethoch yn Nydd Lladdfa. |
| 6 |
| Collfarnasoch, llofruddiasoch y cyfiawn, ac yntau heb sefyll i'ch erbyn. |
| 7 |
| Byddwch ymarhous, gan hynny, frodyr, hyd Ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sydd yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn ymarhous am dano nes iddo dderbyn y gwlaw cynnar a'r diweddar. |
| 8 |
| Byddwch chwithau hefyd ymarhous; sefydlwch eich calonnau: canys Dyfodiad yr Arglwydd a nesâodd. |
| 9 |
| Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na'ch barner; wele, y Barnwr yn sefyll o flaen y drysau. |
| 10 |
| Cymerwch, frodyr, fel siampl o ddrwg‐driniaeth a hir‐ymaros, y prophwydi y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd. |
| 11 |
| Wele, yr ydym yn cyfrif yn ddedwydd y rhai a oddefasant. Chwi a glywsoch am ddewrder Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd, oblegyd tirion iawn yw yr Arglwydd a thosturiol. |
| 12 |
| Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaear, nac un llŵ arall; eithr bydded eich Ië chwi yn Ië, a'ch Nage yn Nage, fel na syrthioch dan farnedigaeth. |
| 13 |
| A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddïed. A oes neb yn llawen ei feddwl? caned fawl. |
| 14 |
| A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed am henuriaid yr eglwys, a gweddïont uwch ei ben, wedi ei eneinio âg olew yn enw yr Arglwydd. |
| 15 |
| A gweddi y ffydd a adfer yr hwn sydd glaf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, fe faddeuir iddo. |
| 16 |
| Cyffeswch, gan hynny, eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y'ch iachâer. Llawer a ddichon gweddi y cyfiawn pan yn gweithredu yn nerthol. |
| 17 |
| Elias oedd ddyn o gyffelyb anian a ninnau, ac efe a weddïodd yn ddifrifol na byddai gwlaw; ac ni bu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe' mis. |
| 18 |
| Ac efe a weddïodd drachefn, a'r nef a roddes wlaw, a'r ddaear a ddug ei ffrwyth. |
| 19 |
| Fy mrodyr, os crwydra neb yn eich plith oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef, |
| 20 |
| gwybyddoch y bydd i'r hwn a drodd bechadur o gyfeiliornad ei ffordd achub enaid rhag angau, a gorchuddio lliaws o bechodau. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/james/005.mp3
5
5