×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Josua 16

1
Yr oedd rhandir disgynyddion Joseff yn ymestyn o'r Iorddonen ger Jericho, i'r dwyrain o ddyfroedd Jericho, i'r anialwch ac i fyny o Jericho i fynydd-dir Bethel.
2
Yna i o Fethel i Lus, a chroesi terfyn yr Arciaid yn Ataroth;
3
wedyn disgynnai tua'r gorllewin at derfyn y Jaffletiaid, cyn belled therfyn Bethhoron Isaf a Geser, nes cyrraedd y mr.
4
Hon oedd yr etifeddiaeth a gafodd Manasse ac Effraim, meibion Joseff.
5
Dyma derfyn yr Effraimiaid yn l eu tylwythau: yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth yn ymestyn o Ataroth-adar yn y dwyrain hyd Bethhoron Uchaf;
6
yna i ymlaen at y mr, at Michmetha yn y gogledd, a throi i'r dwyrain o Taanath-seilo a mynd heibio iddi i'r dwyrain at Janoha.
7
i i lawr o Janoha i Ataroth a Naarath, gan gyffwrdd Jericho ac ymlaen at yr Iorddonen.
8
O Tappua i'r terfyn tua'r gorllewin ar hyd nant Cana nes cyrraedd y mr. Dyma etifeddiaeth llwyth Effraim yn l eu tylwythau.
9
Yr oedd yn cynnwys hefyd y trefi a neilltuwyd i Effraim yng nghanol etifeddiaeth Manasse, yr holl drefi a'u pentrefi.
10
Ni ddisodlwyd y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; felly y mae'r Canaaneaid yn byw ymysg yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ond eu bod dan lafur gorfod.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau