×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Josua 19

1
I Simeon y disgynnodd yr ail goelbren, i lwyth Simeon yn l eu tylwythau; yr oedd eu hetifeddiaeth hwy yng nghanol etifeddiaeth Jwda.
2
Cawsant yn etifeddiaeth: Beerseba, Seba, Molada,
3
Hasarsual, Bala, Esem,
4
Eltolad, Bethul, Horma,
5
Siclag, Beth-marcaboth, Hasarusa,
6
Beth-lebaoth a Saruhen: tair ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
7
Ain, Rimmon, Ether ac Asan: pedair tref a'u pentrefi;
8
hefyd yr holl bentrefi o amgylch y trefi hyn, hyd at Baalathbeer, Ramath-negef. Dyma etifeddiaeth llwyth Simeon yn l eu tylwythau.
9
Daeth peth o randir Jwda yn etifeddiaeth i Simeon, am fod rhan llwyth Jwda yn ormod iddynt; felly etifeddodd Simeon gyfran yng nghanol etifeddiaeth Jwda.
10
Disgynnodd y trydydd coelbren i lwyth Sabulon yn l eu tylwythau; yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth hwy'n ymestyn hyd Sarid,
11
ac yna i fyny tua'r gorllewin at Marala, gan gyffwrdd Dabbeseth ac 'r nant gyferbyn Jocneam.
12
Yr oedd y terfyn yn troi'n l o Sarid tua'r dwyrain a chodiad haul, ac yna'n mynd i fyny at Cislothtabor, ac ymlaen at Daberath ac i fyny i Jaffia.
13
Oddi yno i yn ei flaen tua'r dwyrain i Gath-heffer ac Ittacasin, nes cyrraedd Rimon a throi tua Nea.
14
Yr oedd y terfyn yn troi i'r gogledd o Hannathon, nes cyrraedd dyffryn Jifftahel,
15
gan gynnwys Cattath, Nahalal, Simron, Idala a Bethlehem: deuddeg o drefi a'u pentrefi.
16
Dyma etifeddiaeth llwyth Sabulon yn l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
17
I Issachar y disgynnodd y pedwerydd coelbren, i lwyth Issachar yn l eu tylwythau.
18
Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Jesreel, Cesuloth, Sunem,
19
Haffraim, Sihon, Anaharath,
20
Rabbith, Cision, Abes,
21
Remeth, En-gannim, Enhada a Beth-passes.
22
Yr oedd y terfyn yn cyffwrdd Tabor, Sahasima a Bethsemes, ac yn cyrraedd yr Iorddonen: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
23
Dyma etifeddiaeth llwyth Issachar yn l eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.
24
Disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn l eu tylwythau.
25
Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Helcath, Hali, Beten, Achsaff,
26
Alammelech, Amad a Misal; yn y gorllewin yr oedd eu terfyn yn cyffwrdd Charmel a Sihor Libnath.
27
Yr oedd yn troi'n l tua'r dwyrain at Beth-dagon, ac yna'n cyffwrdd Sabulon a dyffryn Jifftahel, ac yn mynd tua'r gogledd at Bethemec a Neiel, heibio i Cabwl,
28
Ebron, Rehob, Hammon a Cana hyd at Sidon Fawr.
29
Yr oedd y terfyn yn troi yn Rama ac yn cyrraedd dinas gaerog Tyrus, ac yna'n troi tua Hosa nes cyrraedd Mahalab, Achsib,
30
Acco, Affec a Rehob: dwy ar hugain o drefi a'u pentrefi.
31
Dyma etifeddiaeth llwyth Aser yn l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
32
I lwyth Nafftali y disgynnodd y chweched coelbren, i lwyth Nafftali yn l eu tylwythau.
33
i eu terfyn hwy o Heleff, o'r dderwen yn Saanannim heibio i Adami-neceb a Jabneel i Laccum, nes cyrraedd yr Iorddonen.
34
Yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin yn Asnothtabor ac yn mynd oddi yno i Huccoc, gan gyffwrdd Sabulon i'r de, ac Aser i'r gorllewin, a Jwda ger yr Iorddonen i'r dwyrain.
35
Eu dinasoedd caerog oedd Sidim, Ser, Hammath, Raccath, Cinnereth,
36
Adama, Rama, Hasor,
37
Cedes, Edrei, En-hasor,
38
Iron, Migdalel, Horem, Beth-anath a Bethsemes: pedair ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
39
Dyma etifeddiaeth llwyth Nafftali yn l eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.
40
Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn l eu tylwythau.
41
Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Sora, Estaol, Ir-semes,
42
Saalabbin, Ajalon, Ithla,
43
Elon, Timna, Ecron,
44
Eltece, Gibbethon, Baalath,
45
Jehud, Beneberac, Gath-rimmon,
46
Meiarcon, a Raccon, a hefyd y tir gyferbyn Jopa.
47
Pan gollodd y Daniaid eu tiriogaeth, aethant i fyny ac ymladd yn erbyn Lesem a'i chipio; trawsant hi min cleddyf, a'i meddiannu ac ymsefydlu yno, gan alw Lesem yn Dan ar l eu tad.
48
Dyma etifeddiaeth llwyth Dan yn l eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
49
Wedi iddynt orffen rhannu'r wlad yn l ei therfynau, rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun.
50
Yn unol gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoesant iddo'r ddinas y gofynnodd amdani, sef Timnathsera ym mynydd-dir Effraim; ac wedi iddo'i hailadeiladu, bu fyw yno.
51
Dyma'r etifeddiaethau a rannodd yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun a'r pennauteuluoedd, trwy goelbren, i lwythau Israel yn Seilo gerbron yr ARGLWYDD, yn nrws pabell y cyfarfod. A gorffenasant rannu'r wlad.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau