×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Josua 6

1
Yr oedd Jericho wedi ei chloi'n dynn rhag yr Israeliaid, heb neb yn mynd i mewn nac allan.
2
Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, "Edrych, yr wyf wedi rhoi Jericho a'i brenin a'i rhyfelwyr grymus yn dy law.
3
Ewch chwi, yr holl filwyr, o amgylch y ddinas un waith, a gwneud hynny am chwe diwrnod.
4
A bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr arch. Yna ar y seithfed dydd amgylchwch y ddinas seithwaith, a'r offeiriaid yn seinio'r utgyrn.
5
Pan ddaw caniad hir ar y corn hwrdd, a chwithau'n clywed sain yr utgorn, bloeddied y fyddin gyfan bloedd uchel, ac fe syrth mur y ddinas i lawr; yna aed pob un o'r fyddin i fyny ar ei gyfer."
6
Galwodd Josua fab Nun ar yr offeiriaid a dweud wrthynt, "Codwch arch y cyfamod, a bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen arch yr ARGLWYDD."
7
Dywedodd wrth y fyddin, "Ewch ymlaen ac amgylchwch y ddinas, gyda'r rhai arfog yn mynd o flaen arch yr ARGLWYDD."
8
Ac wedi i Josua lefaru wrth y fyddin, cerddodd y saith offeiriad oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr ARGLWYDD, gan seinio'r utgyrn, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD yn eu dilyn.
9
Yr oedd y gwu375?r arfog yn mynd o flaen yr offeiriaid oedd yn seinio'r utgyrn, a'r l-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.
10
Yr oedd Josua wedi gorchymyn i'r fyddin, "Peidiwch gweiddi na chodi eich llais nac yngan yr un gair tan y diwrnod y dywedaf wrthych am floeddio; yna bloeddiwch."
11
Aethant ag arch yr ARGLWYDD o amgylch y ddinas un waith, ac yna dychwelyd i'r gwersyll i fwrw'r nos.
12
Cododd Josua'n fore, a chymerodd yr offeiriaid arch yr ARGLWYDD;
13
yna aeth y saith offeiriad, a oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd, o flaen arch yr ARGLWYDD gan seinio'r utgyrn, gyda'r gwu375?r arfog o'u blaen a'r l-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.
14
Ar l amgylchu'r ddinas un waith ar yr ail ddiwrnod, aethant yn eu hl i'r gwersyll. Gwnaethant felly am chwe diwrnod.
15
Ar y seithfed dydd, codasant gyda'r wawr ac amgylchu'r ddinas yr un modd saith o weithiau; y diwrnod hwnnw'n unig yr amgylchwyd y ddinas seithwaith.
16
Yna ar y seithfed tro, pan seiniodd yr offeiriaid yr utgyrn, dywedodd Josua wrth y fyddin, "Bloeddiwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chwi.
17
Y mae'r ddinas a phopeth sydd ynddi i fod yn ddiofryd i'r ARGLWYDD. Rahab y butain yn unig sydd i gael byw, hi a phawb sydd gyda hi yn y tu375?, am iddi guddio'r negeswyr a anfonwyd gennym.
18
Ond gochelwch chwi rhag yr hyn sy'n ddiofryd; peidiwch chymryd ohono ar l ei ddiofrydu, rhag gwneud gwersyll Israel yn ddiofryd a dwyn helbul arno.
19
Y mae'r holl arian ac aur, a'r offer pres a haearn, yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac i fynd i drysorfa'r ARGLWYDD."
20
Bloeddiodd y bobl pan seiniodd yr utgyrn; ac wedi i'r fyddin glywed sain yr utgyrn, a bloeddio bloedd uchel, syrthiodd y mur i lawr ac aeth y fyddin i fyny am y ddinas, bob un ar ei gyfer, a'i chipio.
21
Distrywiwyd 'r cleddyf bopeth yn y ddinas, yn wu375?r a gwragedd, yn hen ac ifainc, yn ychen, defaid ac asynnod.
22
Dywedodd Josua wrth y ddau ddyn a fu'n ysbo'r wlad, "Ewch i du375?'r butain, a dewch hi allan, hi a phawb sy'n perthyn iddi, yn unol 'ch addewid iddi."
23
Aeth yr ysbwyr, a dwyn allan Rahab a'i thad a'i mam a'i brodyr a phawb oedd yn perthyn iddi; yn wir daethant 'i thylwyth i gyd oddi yno a'u gosod y tu allan i wersyll Israel.
24
Yna llosgasant y ddinas a phopeth ynddi thn, ond rhoesant yr arian a'r aur a'r offer pres a haearn yn nhrysorfa tu375?'r ARGLWYDD.
25
Ond arbedodd Josua Rahab y butain a'i theulu a phawb oedd yn perthyn iddi, am iddi guddio'r negeswyr a anfonodd Josua i ysbo Jericho; ac y maent yn byw ymhlith yr Israeliaid hyd y dydd hwn.
26
A'r pryd hwnnw cyhoeddodd Josua y llw hwn, a dweud: "Melltigedig gerbron yr ARGLWYDD fyddo'r sawl a gyfyd ac a adeilada'r ddinas hon, Jericho; ar draul ei gyntafanedig y gesyd ei seiliau hi, ac ar draul ei fab ieuengaf y cyfyd ei phyrth."
27
Bu'r ARGLWYDD gyda Josua, ac aeth sn amdano trwy'r holl wlad.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau