Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yr hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weld 'n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo, ynglu375?n gair y bywyd, dyna'r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi. |
| 2 |
| Amlygwyd y bywyd hwn; ac yr ydym wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol a oedd gyda'r Tad ac a amlygwyd i ni. |
| 3 |
| Yr hyn yr ydym wedi ei weld a'i glywed, yr ydym yn ei gyhoeddi i chwi hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb ni. Ac yn wir, y mae ein cymundeb ni gyda'r Tad a chyda'i Fab ef, Iesu Grist. |
| 4 |
| Ac yr ydym ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i'n llawenydd fod yn gyflawn. |
| 5 |
| Hon yw'r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo ef, ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwi: goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch. |
| 6 |
| Os dywedwn fod gennym gymundeb ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dweud celwydd, ac nid ydym yn gwneud y gwirionedd; |
| 7 |
| ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb 'n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod. |
| 8 |
| Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw'r gwirionedd ynom. |
| 9 |
| Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder. |
| 10 |
| Os dywedwn nad ydym wedi pechu, yr ydym yn ei wneud ef yn gelwyddog, ac nid yw ei air ef ynom ni. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/1john/001.mp3
5
1