|
| 1 |
| Yr Henuriad at Gaius yr anwylyd, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd. |
| 2 |
| Anwylyd, yr wyf yn gweddio ar dy fod ym mhob peth yn llwyddo a bod yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo. |
| 3 |
| Canys llawenychais yn ddirfawr wrth ddyfod o frodyr a thystiolaethu i'th wirionedd di, megys ag yr wyt yn rhodio mewn gwirionedd. |
| 4 |
| Mwy llawenydd nid oes gennyf na hyn, sef clywed fod fy mhlant fy hun yn rhodio yn y gwirionedd. |
| 5 |
| Anwylyd, yr wyt yn gwneuthur gwaith ffyddlawn ym mha beth bynnag yr wyt yn ei weithredu tuag at y brodyr, ac yn enwedig a hwy yn ddyeithriaid; |
| 6 |
| y rhai a ddygasant dystiolaeth i'th gariad di gerbron yr eglwys: rhagorol y gwnei os hebryngi hwynt yn deilwng o Dduw; |
| 7 |
| canys er mwyn yr Enw yr aethant allan, heb gymeryd dim gan y Cenhedloedd. |
| 8 |
| Ni a ddylem gan hynny gynnal y cyfryw rai, fel y byddom gyd‐weithwyr â'r gwirionedd. |
| 9 |
| Ysgrifennais rywbeth at yr Eglwys, eithr Diotrephes, yr hwn sydd yn chwennych y flaenoriaeth yn eu plith hwy ni dderbyn o honom ni. |
| 10 |
| O herwydd hyn, os deuaf, dygaf ar gof ei weithredoedd y rhai y mae yn eu gwneuthur, gan wag‐siarad i'n herbyn âg ymadroddion drygionus: ac heb ei ddigoni â hyn, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, ac y mae yn gwahardd y rhai sydd yn ewyllysio, ac yn eu bwrw allan o'r Eglwys. |
| 11 |
| Anwylyd, nac efelycha yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda; yr hwn sydd yn gwneuthur yr hyn sydd dda, o Dduw y mae; yr hwn sydd yn gwneuthur yr hyn sydd ddrwg, nid ydyw wedi gweled Duw. |
| 12 |
| I Demetrius y tystiolaethir gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun; a nyni hefyd ydym yn tystiolaethu; a thi a wyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir. |
| 13 |
| Yr oedd gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atat, ond nid wyf yn ewyllysio ysgrifennu âg ingc a phin atat ti. |
| 14 |
| Eithr yr wyf yn gobeithio dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb. |
| 15 |
| Tangnefedd i ti. Y mae y cyfeillion yn dy annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshcte/3john/001.mp3
1
1