Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Yna gwelais angel nerthol arall yn disgyn o'r nef wedi ei wisgo chwmwl, ac enfys ar ei ben. Yr oedd ei wyneb fel yr haul, a'i goesau fel colofnau o dn. |
| 2 |
| Yr oedd yn dal yn ei law sgrl fechan wedi ei hagor. Gosododd ei droed dde ar y mr a'r un chwith ar y tir. |
| 3 |
| Yna gwaeddodd llais uchel fel llew yn rhuo; a phan waeddodd, cododd y saith daran eu llef hwythau. |
| 4 |
| Ac wedi i'r saith daran lefaru, yr oeddwn ar fin ysgrifennu; ond clywais lais o'r nef yn dweud, "Gosod y pethau a lefarodd y saith daran dan sl; paid 'u hysgrifennu." |
| 5 |
| A dyma'r angel a welais yn sefyll ar y mr ac ar y tir yn codi ei law dde i'r nef |
| 6 |
| ac yn tyngu yn enw'r hwn sydd yn byw byth bythoedd, yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, y tir a'r pethau sydd ynddo, a'r mr a'r pethau sydd ynddo. Dywedodd: "Ni bydd oedi mwy; |
| 7 |
| ond yn nyddiau sain yr utgorn y mae'r seithfed angel i'w seinio, bydd bwriad dirgel Duw wedi ei ddwyn i ben, yn unol 'r newyddion da a gyhoeddodd i'w weision, y proffwydi." |
| 8 |
| Yna'r llais a glywais o'r nef, fe'i clywais eto'n llefaru wrthyf gan ddweud, "Dos a chymer y sgrl sy'n agored yn llaw'r angel sy'n sefyll ar y mr ac ar y tir." |
| 9 |
| Euthum at yr angel a dweud wrtho am roi'r sgrl fechan imi, ac atebodd fi: "Cymer a bwyta hi; fe fydd hi'n chwerw i'th gylla, ond yn felys fel ml yn dy enau." |
| 10 |
| Cymerais y sgrl fechan o law'r angel a'i bwyta hi, ac yr oedd yn felys fel ml yn fy ngenau; ond wedi i mi ei bwyta aeth fy nghylla yn chwerw. |
| 11 |
| A dywedwyd wrthyf, "Rhaid iti broffwydo eto ynghylch pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer." |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/revelation/010.mp3
22
10