Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Gwelais arwydd arall yn y nef, un mawr a rhyfeddol: saith angel a chanddynt saith bla y rhai olaf, oherwydd ynddynt hwy y cwblhawyd digofaint Duw. |
| 2 |
| Gwelais rywbeth tebyg i fr o wydr, a thn yn gwau drwyddo, ac yn sefyll ar y mr o wydr gwelais orchfygwyr y bwystfil a'i ddelw a rhif ei enw, yn dal telynau Duw. |
| 3 |
| Yr oeddent yn canu cn Moses, gwas Duw, a chn yr Oen: "Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw hollalluog; cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd, O Frenin y cenhedloedd. |
| 4 |
| Pwy nid ofna, Arglwydd, a gogoneddu dy enw? Oherwydd tydi yn unig sydd sanctaidd. Daw'r holl genhedloedd ac addoli ger dy fron, oherwydd y mae dy farnedigaethau cyfiawn wedi eu hamlygu." |
| 5 |
| Ar l hyn edrychais, ac agorwyd teml pabell y dystiolaeth yn y nef. |
| 6 |
| Ac allan o'r deml daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt. Yr oeddent wedi eu gwisgo lliain disgleirwych, a gwregys aur am eu dwyfron. |
| 7 |
| Yna rhoddodd un o'r pedwar creadur byw saith ffiol aur i'r saith angel, yn llawn o lid Duw, yr hwn sy'n byw byth bythoedd. |
| 8 |
| Llanwyd y deml mwg gan ogoniant Duw a'i allu ef, ac ni allai neb fynd i mewn i'r deml hyd nes cwblhau saith bla y saith angel. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/revelation/015.mp3
22
15