A dywedodd un o'r henuriaid wrthyf, "Paid ag wylo; wele, y mae'r Llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, wedi gorchfygu ac ennill yr hawl i agor y sgrl a'i saith sl."
Gwelais Oen yn sefyll yn y canol, gyda'r pedwar creadur byw, rhwng yr orsedd a'r henuriaid. Yr oedd yr Oen fel un wedi ei ladd, ac yr oedd ganddo saith o gyrn a saith o lygaid; y rhain yw saith ysbryd Duw, sydd wedi eu hanfon i'r holl ddaear.
Ac wedi iddo gymryd y sgrl, syrthiodd y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, ac yr oedd gan bob un ohonynt delyn, a ffiolau aur yn llawn o arogldarth; y rhain yw gweddau'r saint.
Ac yr oeddent yn canu cn newydd fel hyn: "Teilwng wyt ti i gymryd y sgrl ac i agor ei seliau, oherwydd ti a laddwyd ac a brynaist i Dduw 'th waed rai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl,
Yna edrychais a chlywais lais angylion lawer; yr oeddent o amgylch yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid. A'u rhif oedd myrdd myrddiynau a miloedd ar filoedd.
A chlywais bob peth a grewyd, yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac ar y mr, a'r cwbl sydd ynddynt, yn dweud: "I'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd ac i'r Oen y bo'r mawl a'r anrhydedd a'r gogoniant a'r nerth byth bythoedd!"