Ar ôl i Abimelech farw dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim.
Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae'r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw.
Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n addoli delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a stopio'i addoli e!
Roedden nhw'n curo a cham-drin pob Israel yn ddidrugaredd. Roedd pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen (sef Gilead), wedi dioddef am un deg wyth o flynyddoedd.
y Sidoniaid, yr Amaleciaid, y Midianiaid … mae pob un ohonyn nhw wedi eich cam-drin chi. A pan oeddech chi'n gweiddi arna i am help, roeddwn i'n eich achub chi.
Yna dyma pobl Israel yn cael gwared â'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw a dechrau addoli'r ARGLWYDD eto. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD wedi blino gweld pobl Israel yn dioddef.
Dyma arweinwyr Gilead yn gofyn, “Pwy sy'n barod i arwain yr ymosodiad yn erbyn byddin yr Ammoniaid? Bydd y person hwnnw'n cael ei wneud yn llywodraethwr ar Gilead!”