Yr oedd gan wraig Gilead hefyd feibion, ac wedi iddynt dyfu, gyrasant Jefftha allan a dweud wrtho, "Ni chei di etifeddiaeth yn nhu375? ein tad, oherwydd mab i wraig estron wyt ti."
Ond dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, "Onid chwi oedd yn fy nghasu ac yn fy ngyrru o du375? fy nhad? Pam y dewch ataf fi yn awr pan yw'n gyfyng arnoch?"
Dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, "Os byddwch yn fy nghymryd yn l i ymladd 'r Ammoniaid, a'r ARGLWYDD yn eu rhoi yn fy llaw, yna byddaf yn ben arnoch."
Aeth Jefftha gyda henuriaid Gilead, a gwnaeth y fyddin ef yn ben ac yn arweinydd arnynt, ac adroddodd Jefftha gerbron yr ARGLWYDD yn Mispa bopeth yr oedd wedi ei gytuno.
Dywedodd brenin yr Ammoniaid wrth negeswyr Jefftha, "Pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, meddiannodd fy ngwlad rhwng nentydd Arnon a Jabboc, hyd at yr Iorddonen; felly dyro hi'n l yn awr yn heddychol."
Yna fe anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom a dweud, "Gad imi fynd trwy dy dir di"; ond ni wrandawai brenin Edom. Wedyn anfonwyd at frenin Moab, ac nid oedd ef yn fodlon; felly arhosodd Israel yn Cades.
Yna aethant drwy'r anialwch i fynd heibio i dir Edom a thir Moab o'r tu dwyrain i wlad Moab, a gwersyllu y tu hwnt i nant Arnon, heb groesi terfyn Moab, oherwydd nant Arnon yw terfyn Moab.
Rhoddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, Sihon a'i holl fyddin yn llaw Israel, ac fe'u lladdwyd; a meddiannodd Israel holl dir yr Amoriaid oedd yn byw yn yr ardal honno.
Onid yr hyn y bydd dy dduw Cemos yn ei roi'n feddiant iti yr wyt ti i'w feddiannu? Yn yr un modd meddiannwn ninnau'r cyfan y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei roi'n feddiant i ninnau.
Bu Israel yn byw yn Hesbon ac Aroer a'u maestrefi, ac yn yr holl drefi sydd ar lannau'r afon, am dri chan mlynedd; pam na fyddech wedi eu hadennill yn ystod y cyfnod hwnnw?
Nid myfi sydd wedi pechu yn d'erbyn, ond ti sy'n gwneud cam mi wrth ddod i ryfela yn f'erbyn. Y mae'r ARGLWYDD yn farnwr; barned ef heddiw rhwng Israel a'r Ammoniaid.'"
beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhu375? i'm cyfarfod wrth imi ddychwelyd yn ddiogel oddi wrth yr Ammoniaid, bydd yn eiddo i'r ARGLWYDD, ac offrymaf ef yn boethoffrwm."
Pan gyrhaeddodd Jefftha ei gartref yn Mispa, daeth ei ferch allan i'w gyfarfod thympanau a dawnsiau. Hi oedd ei unig blentyn; nid oedd ganddo fab na merch ar wahn iddi hi.
A phan welodd ef hi, rhwygodd ei wisg, a dweud, "Gwae fi, fy merch! Yr wyt ti wedi fy nryllio'n llwyr, a thi yw achos fy nhrallod. Gwneuthum addewid i'r ARGLWYDD, ac ni allaf ei thorri."
Ac meddai hithau wrtho, "Fy nhad, yr wyt wedi gwneud addewid i'r ARGLWYDD; gwna imi fel yr addewaist, wedi i'r ARGLWYDD sicrhau iti ddialedd ar dy elynion, yr Ammoniaid."
Ar derfyn y deufis, daeth yn l at ei thad, a gwnaeth yntau iddi yn l yr adduned a dyngodd. Nid oedd hi wedi cael cyfathrach gu373?r. A daeth hyn yn ddefod yn Israel,