gan dy fod yn mynd i feichiogi a geni mab; ac nid yw ellyn i gyffwrdd 'i ben, oherwydd y mae'r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o'r groth. Ef fydd yn dechrau gwaredu Israel o law'r Philistiaid."
Aeth y wraig at ei gu373?r a dweud, "Daeth gu373?r Duw ataf, a'i wedd fel angel Duw, yn frawychus iawn; ni ofynnais iddo o ble'r oedd, ac ni ddywedodd ei enw wrthyf.
Fe ddywedodd wrthyf, 'Byddi'n beichiogi ac yn geni mab; felly paid ag yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan, oherwydd bydd y bachgen yn Nasaread i Dduw o'r groth hyd ddydd ei farw.'"
Gweddodd Manoa ar yr ARGLWYDD a dweud, "O Arglwydd, os gweli'n dda, gad i'r gu373?r Duw a anfonaist ddod yn l atom i'n cyfarwyddo beth i'w wneud i'r bachgen a enir."
Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi." Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, "Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer."
Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, "Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD." Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd,
Fel yr oedd y fflam yn codi oddi ar yr allor i'r awyr, esgynnodd angel yr ARGLWYDD yn fflam yr allor. Yr oedd Manoa a'i wraig yn edrych, a syrthiasant ar eu hwynebau ar lawr.
Ond meddai hi wrtho, "Pe byddai'r ARGLWYDD wedi dymuno ein lladd, ni fyddai wedi derbyn poethoffrwm a bwydoffrwm o'n llaw, na dangos yr holl bethau hyn i ni, na pheri inni glywed pethau fel hyn yn awr."