Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd rhyw Lefiad yn byw yng nghyffiniau mynydd-dir Effraim, ac fe gymerodd iddo ordderchwraig o Fethlehem Jwda.
cychwynnodd ei gu373?r ar ei hl gyda'i was a dau asyn, i'w denu hi'n l. Daeth hi ag ef i'w chartref, a phan welodd ei thad ef yr oedd yn falch o'i gyfarfod.
Ar y pedwerydd dydd, wedi iddynt godi'n fore a pharatoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrth ei fab-yng-nghyfraith, "Atgyfnertha dy hun thamaid o fara cyn cychwyn."
A buont yn hamddena hyd hwyr y dydd ac yn bwyta gyda'i gilydd. Yna, pan oedd y dyn a'i ordderch a'i lanc yn paratoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrtho, "Edrych, y mae'n hwyrhau, arhoswch heno; mae'r dydd ar ddarfod. Os arhosi yma heno a'th fwynhau dy hun, fe gewch godi'n gynnar yfory i'ch taith, a mynd adref."
A phan oeddent yn ymyl Jebus, a'r dydd yn darfod, dywedodd y gwas wrth ei feistr, "Tyrd yn awr, gad inni droi i mewn yma i ddinas y Jebusiaid, a threulio'r nos ynddi."
Ar hynny, dyma hen u373?r yn dod o'i waith yn y maes gyda'r hwyr. Un o fynydd-dir Effraim oedd ef, ond yn cartrefu dros dro yn Gibea; Benjaminiaid oedd pobl y lle.
Dywedodd yntau wrtho, "Ar daith o Fethlehem Jwda i gyffiniau mynydd-dir Effraim yr ydym ni. Un oddi yno wyf fi, yn dychwelyd adref ar l bod ym Methlehem Jwda; ond nid oes neb wedi fy nghymryd i'w du375?.
Tra oeddent yn eu mwynhau eu hunain, daeth rhai o ddihirod y dref i ymgasglu o gwmpas y tu375?, a churo ar y drws a dweud wrth yr hen u373?r oedd yn berchen y tu375?, "Tyrd 'r dyn a ddaeth i'th du375? allan, i ni gael cyfathrach ag ef."
Aeth perchennog y tu375? allan atynt a dweud wrthynt, "Nage, frodyr, peidiwch chamymddwyn; gan fod y dyn wedi dod i'm tu375?, peidiwch gwneud y fath anlladrwydd.
Dyma fy merch i, sy'n wyryf, a'i ordderch ef; dof hwy allan i chwi eu treisio, neu wneud fel y mynnoch iddynt, ond peidiwch gwneud y fath anlladrwydd gyda'r dyn."
Ond ni fynnai'r dynion wrando arno. Felly cydiodd y dyn yn ei ordderch a'i gwthio allan atynt, a buont yn ei threisio a'i cham-drin drwy'r nos, hyd y bore, ac yna gadael iddi fynd ar doriad y wawr.
Pan gododd ei meistr yn y bore ac agor drws y tu375? i fynd allan i gychwyn ar ei daith, dyna lle'r oedd ei ordderch wedi disgyn wrth ddrws y tu375?, a'i dwy law ar y rhiniog.
Yr oedd pawb a'i gwelodd yn dweud, "Ni wnaed ac ni welwyd y fath beth, o'r dydd y daeth yr Israeliaid i fyny o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn. Edrychwch arni ac ystyried; yna mynegwch eich barn."