"O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir, ac ymdeithio o Faes Edom, fe grynodd y ddaear, glawiodd y nefoedd, ac yr oedd y cymylau hefyd yn diferu du373?r.
Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau, ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD, buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel, pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.
Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn, a gweiddi, 'Ar dy l di, Benjamin, gyda'th geraint!' Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir; ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.
Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora; bu Issachar yn ffyddlon i Barac, yn rhuthro i'r dyffryn ar ei l. Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.
"'Melltigwch Meros,' medd angel yr ARGLWYDD, 'melltigwch yn llwyr ei thrigolion, am na ddaethant i gynorthwyo'r ARGLWYDD, i gynorthwyo'r ARGLWYDD gyda'r gwroniaid.'
'Onid ydynt yn cael ysbail ac yn ei rannu llances neu ddwy i bob un o'r dynion, ysbail o frethyn lliw i Sisera, ie, ysbail o frethyn lliw, darn neu ddau o frodwaith am yddfau'r ysbeilwyr?'
"Felly bydded i'th holl elynion ddarfod, O ARGLWYDD, ond bydded y rhai sy'n dy garu fel yr haul yn codi yn ei rym." Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd.