Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr ARGLWYDD, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr ARGLWYDD a ânt i waered i'r pyrth.
O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon.
Melltigwch Meros, eb angel yr ARGLWYDD, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynhorthwy i'r ARGLWYDD, yn gynhorthwy i'r ARGLWYDD yn erbyn y cedyrn.
Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a'i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.
Oni chawsant hwy? oni ranasant yr anrhaith, llances neu ddwy i bob gŵr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symudliw o wniadwaith o'r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr?
Felly y darfyddo am dy holl elynion, O ARGLWYDD: a bydded y rhai a'i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.