Dywedodd gwu375?r Effraim wrtho, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni, drwy beidio 'n galw pan aethost i ymladd yn erbyn Midian?" A buont yn dadlau'n chwyrn ag ef.
Yn eich dwylo chwi y rhoddodd Duw Oreb a Seeb, arweinwyr Midian. Beth a fedrais i ei wneud o'i gymharu 'r hyn a wnaethoch chwi?" Wedi iddo ddweud hyn, fe dawelodd eu dig tuag ato.
Dywedodd wrth bobl Succoth, "Os gwelwch yn dda, rhowch dipyn o fara i'r fyddin sy'n fy nilyn, oherwydd maent yn lluddedig, ac yr wyf finnau'n erlid ar l Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian."
Yr oedd Seba a Salmunna wedi cyrraedd Carcor, ac yr oedd eu byddin gyda hwy, tua phymtheng mil, sef pawb a adawyd o fyddin y dwyreinwyr, oherwydd yr oedd cant ac ugain o filoedd o wu375?r arfog wedi syrthio.
Pan ddaeth at bobl Succoth, dywedodd, "Dyma Seba a Salmunna, y buoch yn eu dannod imi, gan ofyn, 'A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th ddynion lluddedig?'"
Pan holodd ef Seba a Salmunna, "Sut rai oedd y dynion a laddasoch yn Tabor?", eu hateb oedd: "Yr oedd pob un ohonynt yr un ffunud thi, yn edrych fel plant brenin."
Yna dywedodd Seba a Salmunna, "Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth." Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.
Yna meddai Gideon, "Gadewch imi ofyn un peth gennych, sef bod pob un yn rhoi imi glustlws o'i ysbail." Yr oedd ganddynt glustlysau aur am mai Ismaeliaid oeddent.
Yr oedd y clustlysau aur y gofynnodd amdanynt yn pwyso mil a saith gant o siclau aur, heb gyfrif y tlysau a'r torchau a'r gwisgoedd porffor oedd gan frenhinoedd Midian, a'r coleri oedd am yddfau'r camelod.