"Yr wyf am i chwi ofyn i holl ben-aethiaid Sichem, 'Prun sydd orau gennych, cael eich llywodraethu gan yr holl ddeg a thrigain o feibion Jerwbbaal, ynteu cael eich llywodraethu gan un dyn? Cofiwch hefyd fy mod i o'r un asgwrn a chnawd chwi.'"
Fe siaradodd brodyr ei fam amdano yng nghlyw holl benaethiaid Sichem, a dweud yr holl bethau hyn, ac yr oedd eu calon yn tueddu tuag at Abimelech am eu bod yn meddwl, "Y mae'n frawd i ni."
Aeth i du375? ei dad yn Offra, a lladd ar yr un maen bob un o'i frodyr, sef deng mab a thrigain Jerwbbaal. Ond arbedwyd Jotham, mab ieuengaf Jerwbbaal, am iddo ymguddio.
Pan ddywedwyd hyn wrth Jotham, fe aeth ef a sefyll ar gopa Mynydd Garisim a gweiddi'n uchel. Meddai wrthynt, "Gwrandewch arnaf fi, chwi benaethiaid Sichem, er mwyn i Dduw wrando arnoch chwithau.
Dywedasant wrth yr olewydden, 'Bydd di yn frenin arnom.' Ond atebodd yr olewydden, 'A adawaf fi fy mraster, yr anrhydeddir Duw a dynion trwyddo, a mynd i lywodraethu ar y coed?'
Ac meddai'r fiaren wrth y coed, 'Os ydych o ddifrif am f'eneinio i yn frenin arnoch, dewch a llochesu yn fy nghysgod. Onid e, fe ddaw tn allan o'r fiaren a difa cedrwydd Lebanon.'
"Yn awr, a ydych wedi gweithredu'n onest a chydwybodol wrth wneud Abimelech yn frenin? A ydych wedi delio'n deg Jerwbbaal a'i deulu? Ai'r hyn a haeddai a wnaethoch iddo?
ond heddiw yr ydych wedi codi yn erbyn tu375? fy nhad a lladd ei feibion, deg a thrigain o wu375?r, ar un maen. Yr ydych wedi gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin ar benaethiaid Sichem, am ei fod yn frawd i chwi.
Digwyddodd hyn er mwyn i'r trais a wnaed ar ddeng mab a thrigain Jerwbbaal, a'r tywallt gwaed, ddisgyn ar eu brawd Abimelech, a'u lladdodd, ac ar benaethiaid Sichem, a fu'n ei gynorthwyo i ladd ei frodyr.
Gosododd penaethiaid Sichem rai ar bennau'r mynyddoedd i wylio amdano; yr oeddent hwy'n ysbeilio pawb a ddi heibio iddynt ar y ffyrdd, a dywedwyd am hyn wrth Abimelech.
Wedi iddynt fod allan yn y maes yn cynaeafu eu gwinllannoedd ac yn sathru'r grawnwin, cadwasant u373?yl o lawenydd a mynd i deml eu duw gan fwyta ac yfed, ac yna difenwi Abimelech.
Ac meddai Gaal fab Ebed, "Pwy yw Abimelech a phwy yw pobl Sichem, fel ein bod ni yn ei wasanaethu ef? Oni ddylai mab Jerwbbaal a'i oruchwyliwr Sebul wasanaethu gwu375?r Hemor tad Sichem? Pam y dylem ni ei wasanaethu ef?
Gwelodd Gaal y bobl a dywedodd wrth Sebul, "Edrych, y mae pobl yn dod i lawr o gopaon y mynyddoedd." Ond dywedodd Sebul wrtho, "Gweld cysgod y mynyddoedd fel pobl yr wyt."
Atebodd Sebul, "Ple'n awr, ynteu, y mae dy geg fawr oedd yn dweud, 'Pwy yw Abimelech, fel ein bod ni yn ei wasanaethu?' Onid dyma'r fyddin y buost yn ei dilorni? Allan thi yn awr i ymladd hi!"
ac aeth ef a phawb o'r fyddin oedd gydag ef i Fynydd Salmon. Cymerodd Abimelech un o'r bwyeill yn ei law, a thorri cangen o'r coed, a'i chodi a'i gosod ar ei ysgwydd. Yna dywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, "Brysiwch, gwnewch yr un fath mi."
Felly torrodd pob un o'r bobl ei gangen a dilyn Abimelech; rhoesant hwy dros y ddaeargell, a'i llosgi uwch eu pennau. Bu farw pawb oedd yn Nhu373?r Sichem, oddeutu mil o wu375?r a gwragedd.
Yr oedd tu373?r cadarn yng nghanol y dref, a ffodd y gwu375?r a'r gwragedd i gyd yno, a holl benaethiaid y dref, a chloi arnynt ac esgyn i do'r tu373?r.
Ar unwaith galwodd ei lanc, a oedd yn cludo'i arfau, a dweud wrtho, "Tyn dy gleddyf a lladd fi, rhag iddynt ddweud amdanaf mai gwraig a'm lladdodd." Felly trywanodd ei lanc ef, a bu farw.