Aeth Boas i fyny i'r porth ac eistedd yno, a dyna'r perthynas yr oedd Boas wedi sn amdano yn dod heibio. Galwodd Boas arno wrth ei enw a dweud, "Tyrd yma ac eistedd i lawr." Aeth yntau ac eistedd.
a meddyliais y byddwn yn gadael i ti wybod; felly pryn ef yng ngu373?ydd henuriaid fy mhobl, sy'n eistedd yma. Os wyt ti am ei brynu'n l, gwna hynny; ond os nad wyt am ei brynu, dywed wrthyf, imi gael gwybod; oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i'w brynu, a chennyf finnau wedyn." Dywedodd yntau, "Fe'i prynaf."
Yna meddai Boas, "Y diwrnod y pryni di'r tir gan Naomi, yr wyt hefyd yn cymryd Ruth y Foabes, gwraig gu373?r a fu farw, i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth."
Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n l a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.
A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, "Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi.
Yr wyf hefyd wedi prynu Ruth y Foabes, gweddw Mahlon, yn wraig imi i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth, rhag i'w enw gael ei ddiddymu o fysg ei dylwyth ac o'i fro. Yr ydych chwi heddiw yn dystion o hyn."
Dywedodd pawb oedd yn y porth, a'r henuriaid hefyd, "Yr ydym yn dystion; bydded i'r ARGLWYDD beri i'r wraig sy'n dod i'th du375? fod fel Rachel a Lea, y ddwy a gododd du375? Israel; bydded iti lwyddo yn Effrata, ac ennill enw ym Methlehem.
Bydd ef yn adnewyddu dy fywyd ac yn dy gynnal yn dy henaint, oherwydd dy ferch-yng-nghyfraith, sy'n dy garu, yw ei fam; ac y mae hi'n well na saith o feibion i ti."